Os ydych wedi eich cyflogi fel cynorthwy-ydd personol, mae gan eich cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol i ddilyn yr holl gyfreithiau cyflogaeth perthnasol. Mae hyn yn cynnwys taliadau am salwch, gwyliau blynyddol a chyfnod mamolaeth (fel y bo’n berthnasol).

Canllaw Ar-lein i Gynorthwywyr Personol  

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am eich hawliau, cyfrifoldebau ac adnoddau pellach a allai fod yn ddefnyddiol i chi yn eich rôl. Sylwch, nid oeddem ni (Cyngor Wrecsam) yn rhan o greu’r canllaw hwn.

Datblygwyd hwn yn wreiddiol gan weithwyr proffesiynol allweddol o:

  • Unsain Cymru
  • Sgiliau Digidol Cymru
  • Cysylltu Dysgwyr yn Ne a Chanolbarth Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Gwasanaethau ar gyfer Byw’n Annibynnol
  • Avenue Media Solutions
  • WEA YMCA CC Cymru (Addysg Oedolion Cymru erbyn hyn)
  • Gofal Cymdeithasol Cymru

Hyfforddiant

Gallwch gael mynediad i gyrsiau eDdysgu am ddim ar bynciau amrywiol drwy ein Tîm Datblygu’r gweithlu. 

I gael mynediad i’r hyfforddiant hwn, anfonwch e-bost at workforcedevelopment@wrexham.gov.uk  gyda’r manylion canlynol (a fydd yn cael eu defnyddio i greu eich cyfrif eDdysgu am ddim):

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich Rhif Yswiriant Gwladol 

Chwilio am swydd fel cynorthwy-ydd personol?

Gallwch chwilio am swyddi yn Wrecsam ar wefan Gofalwn Cymru (dolen gyswllt allanol).