Os ydych yn berchen eiddo gwag gallwch ei rentu allan gyda’n help ni drwy ein Cynllun Prydlesu Sector Preifat. 

Rydym yn chwilio’n benodol am lety person sengl hunangynhwysol a 3 ystafell wely a mwy yn y fwrdeistref. Trwy rentu eich eiddo drwy’r cynllun byddwch yn ein helpu ni i ddarparu llety sydd wir ei angen i’r rhai sy’n ddigartref neu mewn risg o ddod yn ddigartref.

Mae ein tîm asiantaeth gosod tai lleol mewnol wedi helpu cannoedd o bobl i ddod o hyd i dai sector preifat o ansawdd da. Mae gan y tîm enw rhagorol am sefydlu tenantiaethau sy’n para am nifer o flynyddoedd.

Bydd ein gwasanaeth yn eich darparu gyda:

  • Prydles 5 i 20 mlynedd
  • Incwm rhent misol gwarantedig am gyfnod y brydles gytunedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol (dolen gyswllt allanol) perthnasol gan dynnu’r ffi rheoli gytunedig, heb golli unrhyw incwm rhent yn ystod cyfnodau y bydd yr eiddo’n wag.
  • Cyllid grant i ddod â’ch eiddo at y safon gytunedig a/neu i gynyddu cyfradd Tystysgrif Perfformiad Ynni i lefel C (yn destun cais)
  • Cyllid grant ychwanegol ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy (yn destun cais)
  • Cynllun atebolrwydd difrod gan denantiaid (yn destun traul resymol) 
  • Cymorth parhaus gyda chytundebau/contractau cyfreithiol a ddarperir gennym ni

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â’n hasiantaeth gosod tai lleol.

Mynegwch eich diddordeb

Gallwch ein hysbysu ni os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.

Dechrau rŵan