Beth yw Teleofal?

Mae Teleofal yn darparu tawelwch meddwl bod rhywun yn cael eu rhybuddio’n awtomatig os ydych angen cymorth, neu mewn argyfwng. Mae ein Gwasanaeth Teleofal yn cefnogi pobl hŷn, pobl ag anableddau neu oedolion a phlant diamddiffyn i fyw’n annibynnol. Mae gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu byw’n ddiogel yn golygu y gallwch chi aros yn eich cartref eich hun cyhyd â phosib. 

Gallwch ddewis lefel o gefnogaeth sy'n addas i chi, o larwm achub sylfaenol, i becyn mwy cynhwysfawr gyda synwyryddion ychwanegol sy'n helpu i reoli risgiau yn y cartref. 

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig 3 chategori o Deleofal:

  • Haen 1 - Llinell achub
  • Haen 2 – Cymorth Cartref
  • Haen 3 – Wedi’i Asesu

Nid oes angen asesiad ffurfiol ar gleientiaid Haen 1 a 2. Bydd ein tîm gosod yn gallu eich cynghori ar yr haen fwyaf priodol i chi. Bydd cleientiaid Haen 3 angen asesiad ffurfiol gan ein tîm Teleofal neu Asesydd Gofal Cymdeithasol, i sicrhau bod y synwyryddion mwyaf addas yn cael eu gosod i gwrdd â'ch anghenion.

Mae pob haen Teleofal yn cynnwys saff allweddi fel y gall y gwasanaethau brys gael mynediad cyflym i'ch eiddo os oes angen. Cedwir y cod allweddi ar system ddiogel a chaiff ei roi i'r gwasanaethau brys yn unig, os a phan fo angen.

Haen 1 - Llinell achub

Mae pecyn Haen 1 - Llinell Achub yn cynnwys:

  • uned sylfaen ddigidol 
  • cadwyn i'w ddefnyddio yn y cartref, y gellir ei wisgo o amgylch yr arddwrn neu'r gwddf

Ar ôl gwthio'r botwm ar y gadwyn, neu'r botwm argyfwng ar yr uned sylfaenol, bydd gweithredwr hyfforddedig yn siarad â chi ac yn penderfynu ar y camau gorau i'w cymryd i gael y cymorth sydd ei angen arnoch.

Y pris ar gyfer Haen 1 rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 yw £5.65 yr wythnos.

Codir tâl gosod untro o £25.

Os caiff y gwasanaeth ei ganslo o fewn 18 mis i'w osod, bydd tâl canslo o £25 (yn cael ei hepgor os caiff ei ganslo o fewn 14 diwrnod i'w osod).
 

Haen 2 – Cymorth Cartref

Mae pecyn Haen 2 - Cymorth Cartref yn cynnwys popeth yn Haen 1, ynghyd â:

  • synhwyrydd mwg
  • monitor gwres eithafol 
  • monitor segurdod
  • botwm galwr ffug.

Mae'r synwyryddion ychwanegol hyn yn helpu i'ch cadw'n ddiogel yn eich cartref, a gallant helpu i gael cymorth yn awtomatig pe bai tân yn eich eiddo. Gellir gosod y botwm galwr ffug wrth ymyl eich drws ffrynt, a gellir ei wasgu os oes unrhyw un anghyfarwydd ar garreg eich drws ac yn ceisio cael mynediad i'ch eiddo.

Gellir gosod monitor segurdod mewn lle strategol yn eich cartref, a bydd yn rhybuddio'r ganolfan fonitro yn awtomatig os nad yw'n canfod symudiad o fewn cyfnod amser diffiniedig. Gall hwn fod yn ddefnyddiol os na allwch ddefnyddio'ch cadwyn a bod angen cymorth arnoch.

Mae'r pecyn hwn yn costio 71c ychwanegol yr wythnos uwchlaw Haen 1, sef £6.36 yr wythnos.

Codir tâl gosod untro o £25.

Os caiff y gwasanaeth ei ganslo o fewn 18 mis i'w osod, bydd tâl canslo o £25 (yn cael ei hepgor os caiff ei ganslo o fewn 14 diwrnod i'w osod).

Haen 3 – Wedi’i Asesu

Mae'r pecyn Haen 3 yn cwmpasu unrhyw becyn pwrpasol ychwanegol ar ben eich haen bresennol er mwyn sicrhau y gallwch aros yn ddiogel ac yn annibynnol gartref.

Bydd angen i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gynnal asesiad, gan weithio gyda chi i benderfynu beth yw'r offer gorau i ddiwallu'ch anghenion.

Nid oes unrhyw gost ychwanegol am unrhyw offer a ddarperir yn dilyn asesiad, a chodir tâl arnoch yn unol â'ch haen berthnasol. Er enghraifft, os oes gennych y pecyn Cymorth Cartref, neu os byddwch yn dewis y pecyn hwn yn ystod y gosodiad, bydd eich ffi yn £6.36 yr wythnos waeth beth fo unrhyw offer ychwanegol a osodir.

Os hoffech gael asesiad ar gyfer offer Teleofal, cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01978 298543.

Talu am Deleofal

Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch dalu am eich pecyn Teleofal. 

Byddwch yn derbyn anfoneb flynyddol ymlaen llaw am y gwasanaeth, o'r dyddiad y gosodwyd y gwasanaeth i chi tan 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol. 

Ar-lein

Gallwch ddewis y botwm ‘Talu rŵan’ isod a fydd yn mynd â chi i’r opsiwn ‘Anfonebau Dyledwyr’ ar ein e-siop, y gellir ei ddefnyddio i dalu am Deleofal. Gwnewch yn siŵr bod eich rhif anfoneb wrth law wrth dalu ar-lein – i’w roi yn y blwch ‘Cyfeirnod’.

Talu rŵan

 

Debyd Uniongyrchol

Bydd mandad Debyd Uniongyrchol yn cael ei gynnwys yn eich anfoneb. Os dymunwch dalu'n fisol, gallwch ddychwelyd y mandad a bydd Debyd Uniongyrchol misol yn cael ei drefnu ar eich cyfer.

Drwy ffonio

Gallwch ddefnyddio’r llinell dalu 24/7 i wneud taliad dros y ffôn, ffoniwch 0300 333 6500.

Mae ystod lawn o opsiynau talu wedi'u hesbonio ar gefn eich anfoneb.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Gallwch wneud cais am Deleofal drwy ffonio Delta Wellbeing ar 0300 333 2222, neu drwy anfon e-bost at telecare@wrexham.gov.uk.

Cynigir amser a dyddiad apwyntiad i chi, a bydd gosodwr yn gosod eich offer newydd ac yn esbonio i chi sut mae'r cyfan yn gweithio. Bydd y gosodwr hefyd yn dangos yr offer a ddefnyddir, ac yn gwneud galwad brawf i'r ganolfan gyswllt.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth Teleofal, e-bostiwch telecare@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 298543.