Os ydych chi, neu rywun sydd yn byw yn eich eiddo gydag anabledd, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth ariannol i helpu tuag at gostau o addasu eich eiddo. Mae’r cymorth ariannol yn cael ei ddarparu i helpu pobl o bob oedran i gadw eu hannibyniaeth a symudedd gartref.

Ydw i’n gymwys am gymorth ariannol addasiadau cartref?

Gallwch fod yn gymwys am grant os ydych chi, neu unigolyn sydd yn byw gyda chi, gydag anabledd neu salwch sy’n cyfyngu ar fywyd ac yn cael anhawster i fynd o amgylch eich cartref (neu anawsterau gyda chyfleusterau bath gartref) oherwydd salwch/ anabledd. Bydd arnoch angen cysylltu â ni i wneud cais, ac os ydych yn gymwys byddwn yn trefnu asesiad i helpu i benderfynu ar y cymorth orau i chi.

Os nad yw'n bosibl i gynnig asesiad i chi, efallai gallwn eich atgyfeirio at sefydliadau eraill neu roi gwybodaeth a chyngor perthnasol.

Sut allaf i wneud cais?

Gallwch ffonio’r Tim Asesiad Cyswllt adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar 01978 292066, a gallent drefnu asesiad i weld os ydych yn gymwys.

Sut mae’r asesiad yn gweithio?

Os cewch gynnig asesiad, bydd aelod o’r tîm therapi galwedigaethol yn gwneud apwyntiad i ymweld â’ch cartref. Byddant yn trafod a phenderfynu y ffordd orau y gellir eich cynorthwyo, gall hyn gynnwys technegau arbennig neu gyfarpar megis canllawiau a chyfarpar bath arbenigol.

Pan na fydd datrysiadau cyfarpar yn ddigon, yna fydd y therapydd galwedigaethol yn ystyried cefnogi’r cais am naill ai cymorth mân addasiadau (ar gyfer gwaith llai) neu grant cyfleusterau i'r anabl (ar gyfer gwaith mwy, a mwy cymhleth). Os ydych yn gymwys am grant cyfleusterau i'r anabl, bydd swyddog grantiau yn trafod mathau o addasiadau a argymhellir gyda chi.

Bydd y therapydd galwedigaethol yn cysylltu â’n tîm adnewyddu tai ac yn amlinellu’r gwaith y maent yn gredu sy'n angenrheidiol a phriodol i fodloni eich anghenion.

Mathau o gymorth ariannol sydd ar gael

Cymorth i wneud Mân Addasiadau 

Mae cymorth mân addasiadau ar gael i gyflenwi cost addasiadau cymwys llai i'ch cartref. 

Gallai helpu dalu am gostau’r mathau canlynol o addasiadau...

  • Lifftiau grisiau syth a chrwn
  • Rampiau (oni bai mewn sefyllfaoedd cymhleth iawn, yna'r rheolwr therapydd galwedigaethol fyddai’n penderfynu ar hyn)
  • Canllawiau a grisiau
  • Lledu drysau
  • Mân Waith Trydanol

Mae cymeradwyaeth o gymorth mân addasiadau yn destun argaeledd yr adnoddau.

Ein polisi ar gyfer cymorth mân addasiadau 

Mae’r math hwn o gymorth ariannol heb brawf modd ac yn cael ei ddarparu fel cymorth ariannol 100% i bob deiliadaethau (sy’n golygu y gall gyflenwi’r cost llawn o un mân addasiad, ar gyfer unigolyn anabl pan maent yn byw mewn lle sydd yn brif gartref iddynt ac yn naill ai yn eiddo i berchen-feddianwyr, neu’n cael ei rentu’n breifat neu gan y cyngor).

Pan fydd angen cyfuniad o fân addasiadau neu lle mae angen addasiadau ychwanegol o fewn cyfnod o 12 mis, mae’r addasiadau pellach neu fwy angen mynd drwy’r broses grant cyfleusterau i'r anabl.

Mae’n rhaid i bob cais ar gyfer cymorth i wneud mân addasiadau gael ei gefnogi gan Gynllun Gofal Addasiadau a gynhyrchwyd gan y Therapydd Galwedigaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Grant Cyfleusterau Anabledd

Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gael ar gyfer ystod o waith mwy, a mwy cymhleth i helpu rhywun sydd ag anabledd i barhau i fyw’n annibynnol gartref. Mae hyn yn cynnwys mynediad at amwynderau hanfodol megis toiledau, ystafell ymolchi a chyfleusterau cegin, yn ogystal ag addasu rheolyddion ar gyfer unrhyw wresogyddion, golau neu gyflenwadau pŵer i'w gwneud yn addas ar gyfer eu defnyddio.

Os ydych yn gymwys, byddwn yn sefydlu asesiad i wirio eich addasrwydd ar gyfer grant. Bydd therapydd galwedigaethol yn ymweld i drafod eich anghenion, yn ogystal â swyddog grantiau a fydd yn trafod y mathau o addasiadau.

Efallai bydd grant yn cael ei roi ar ôl asesiad os yw’r gwaith yn cael eu hystyried yn...

  • Angenrheidiol a phriodol i fodloni anghenion yr unigolyn gydag anabledd/ salwch
  • Rhesymol ac ymarferol, gan ystyried oedran a chynllun yr eiddo

Os yw addasiad yn angenrheidiol, yna bydd cais am gymorth ariannol yn cael ei lenwi gyda chi.

Mae dyfarnu unrhyw gymorth grant wedi seilio ar asesiad o'ch amgylchiadau ariannol os ydych yn oedolyn. Nid yw addasiadau ar gyfer plant yn cael prawf modd, ac os yw plentyn yn gymwys am grant cyfleusterau i'r anabl, bydd yn cael ei ddyfarnu'n llawn.