Mae’r Strategaeth TGCh a Digidol yn egluro ein cynlluniau ar gyfer darparu Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a Digidol ar gyfer 2020-2023. Mae’r cynlluniau hyn yn cyfrannu at flaenoriaeth ‘Sicrhau Cyngor Modern a Gwydn’ yng Nghynllun y Cyngor 2019-2022.

Mae’r strategaeth yn nodi amcanion sy’n croesawu newidiadau a wnaed o ganlyniad i bandemig Covid-19, adeiladu ar gynnydd a wnaed hyd yma, gyda’r nod o sicrhau bod y cyngor yn dod yn awdurdod gwirioneddol ‘Digidol yn Gyntaf’.