Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau lles cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.  

Mae’r strategaeth yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Wrecsam ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, i sicrhau ei bod yn adlewyrchu anghenion cymunedol, gan dargedu ein hadnoddau i hyrwyddo a diogelu lles pawb.  

Mae pandemig COVID wedi dangos sawl anghydraddoldeb y mae’r strategaeth hon yn ceisio mynd i’r afael â hwy. Rydym yn ymfalchïo yn ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac mae’r strategaeth hon yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth modern a chynaliadwy.