Mae Stopio Siarcod Benthyg Arian Cymru yma i gefnogi dioddefwyr ac amddiffyn pobl rhag benthyca anghyfreithlon a throseddau cysylltiedig.

Mae siarcod benthyg arian yn benthyca arian ac yn codi llog ar y benthyciad heb yr awdurdod cyfreithiol. Maent yn gweithredu yn ein cymunedau gan gymryd mantais ar bobl sy’n agored i niwed yn aml.

Nid troseddwyr treisgar yw siarcod benthyg arian bob amser. Gallant ymddangos yn gyfeillgar ac yn gymwynaswr pan fyddwch mewn angen. Gallant fod yn fenthycwyr bychan sy’n manteisio ar ffrindiau neu deulu, landlord neu gyflogwr twyllodrus, cydweithiwr neu aelod o grŵp cymunedol.

Arwyddion rhybudd

Nid yw benthycwyr arian didrwydded bob amser yn hawdd eu hadnabod.Cadwch lygad am yr arwyddion hyn, efallai y byddan nhw’n dweud wrthych eich bod yn delio ag un.

Ymddygiad bygythiol

Er ei fod yn aml yn dechrau’n gyfeillgar, gall siarc benthyg arian droi’n fygythiol os ydych chi’n colli taliadau.

Si ar led

Nid yw siarcod benthyg arian yn hysbysebu fel arfer: rydych yn clywed amdanynt gan bobl eraill.

Dim gwaith papur

Fel arfer nid oes llawer o waith papur, os o gwbl, felly nid ydych yn gwybod faint o arian sydd arnoch chi.

Arian parod yn unig

Fel arfer mae’r benthyciad mewn arian parod er mwyn peidio â gadael trywydd neu gofnod.

Cymryd eiddo personol

Gall siarc benthyg arian gadw eich cardiau, eich pasbort neu bethau gwerthfawr eraill i sicrhau’r benthyciad.

Dyled sy’n cynyddu

Mae’r ddyled yn parhau i dyfu er eich bod yn parhau i dalu.

Help arall