Os ydych yn anhapus gyda’n penderfyniad, mae gennych un mis calendr i gysylltu â ni a naill ai:

  • Gofyn i ni egluro ein penderfyniad (Datganiad o’r Rhesymau);
  • Cais i adolygu’r penderfyniad (Ailystyried);
  • Gofyn am apêl i dribiwnlys annibynnol

Gofyn am Ddatganiad o’r Rhesymau

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am y penderfyniad, bydd arnoch angen ysgrifennu atom o fewn un mis calendr o gael eich hysbysu.

Os ydych yn anhapus gyda’r penderfyniad, gallwch ddewis i gael y penderfyniad wedi ei ailystyried, neu ei gyfeirio yn uniongyrchol i dribiwnlys annibynnol.

Gofyn am Ailystyriaeth

Os ydych yn anghytuno gyda’n penderfyniad, gallwch ofyn i ni ailystyried.

Pan fyddwn yn cael eich cais, bydd aelod gwahanol o staff yn gwirio i weld os oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir.

Os oedd yn anghywir, byddwn yn ei gywiro ac yn anfon llythyrau penderfyniad newydd, gyda hawliau apelio newydd.

Os na allwn newid ein penderfyniad, byddwn yn egluro beth yw’r rheswm, ac yn rhoi mis arall i chi ystyried apelio i’r Gwasanaeth Tribiwnlys.

Apelio penderfyniad

Os ydych yn credu bod penderfyniad yr ydym wedi ei wneud yn anghywir, gallwch ei apelio i Wasanaeth Tribiwnlys Annibynnol.

Bydd y Tribiwnlys Apeliadau yn adolygu’r penderfyniad yn erbyn y dystiolaeth a ddarparwyd ac yn unol â’r gyfraith.

Sut ydw i’n apelio?

Os ydych eisiau apelio penderfyniad, bydd arnoch angen cysylltu â ni.

Byddwn yn adolygu ein penderfyniad cyn y byddwn yn penderfynu anfon eich apêl i’r Gwasanaeth Tribiwnlys.

Os na allwn newid ein penderfyniad yna byddwn yn cyflwyno eich apêl.

Apeliadau hwyr

Os yw eich apêl yn hwyr, efallai na fydd y Gwasanaeth Tribiwnlys yn gallu ei dderbyn oni bai bod amgylchiadau arbennig.

Os ydych yn apelio yn hwyr, bydd arnoch angen egluro'r rheswm am hynny.

Bydd aelod o’r tribiwnlys wedyn yn penderfynu os ydynt am wrando ar eich apêl ai peidio.

Ni wrandewir ar apeliadau os yw'r oedi yn fwy na 13 mis.