Beth ydi Prosiectau Atal ACE?

Mae’r Prosiect Atal ACE yn bartneriaeth rhyngom ni (Cyngor Wrecsam), Home-Start Wrecsam, Home-Start Sir y Fflint, ac Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt. Mae’r prosiect wedi cael cyllid am 3 blynedd o Gronfa Ymyrraeth Gynnar Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Mae tri edefyn i’r prosiect: 

1. Grŵp Llywio Atal ACE  

Bydd y Grŵp Llywio yn goruchwylio Prosiect Atal ACE a'r Rhwydwaith Dysgu ACE i sicrhau bod y ddau'n effeithiol a'u bod yn cyflawni eu nodau. Bydd y Grŵp Llywio yn galluogi i’r hyn sy’n cael ei ddysgu o’r prosiect Atal ACE gael ei rannu gydag asiantaethau partner er mwyn llywio eu harferion datblygu. 

2. Arweinydd Atal ACE 

Bydd Home-Start yn sicrhau swydd Arweinydd Atal ACE i weithio ar draws Home-start yn Wrecsam a Sir y Fflint, gan ddefnyddio perthnasau dibynadwy gyda theuluoedd i ddatblygu ymholiadau ACE ac ystyried y polisi a goblygiadau arferion sy’n ymwneud â rhannu gwybodaeth.

Bydd yr Arweinydd Atal ACE yn:

  • Datblygu modelau i arwain ymholiadau ACE gyda theuluoedd
  • Datblygu systemau i rannu gwybodaeth sy’n ymwneud ag ymholiadau ACE
  • Ystyried y goblygiadau polisi o gadw a rhannu gwybodaeth ACE
  • Ymchwilio a dysgu o fodelau sydd wedi’u profi yn y gorffennol 
  • Rhannu dysgu trwy Hwb Dysgu ACE Wrecsam a Sir y Fflint 

3. Y Rhwydwaith Dysgu ACE

Bydd y Rhwydwaith Dysgu ACE yn fforwm i rannu gwybodaeth, ymchwil a modelau arfer orau gyda phob asiantaeth sydd â diddordeb.