Os ydych chi’n amau bod cerbyd wedi’i adael, gwiriwch i weld a oes ganddo dreth ffordd ac MOT: 

Os oes ganddo dreth ffordd, MOT dilys, nid oes unrhyw gyfyngiadau parcio lle mae wedi’i barcio ar y ffordd ac mae wedi bod yno am lai na 14 diwrnod, ni fyddwn ni’n gallu ei drin yn gerbyd wedi’i adael.

Beth yw cerbyd wedi’i adael?

Mae’r canlynol yn wir am gerbyd wedi’i adael:

  • nid oes ganddo geidwad wedi’i gofrestru ar gronfa ddata’r DVLA ac nid yw wedi'i drethu
  • nid oes ganddo MOT dilys
  • wedi bod yn llonydd ers cryn dipyn o amser 
  • mae’r cerbyd wedi chwythu ei blwc ac ni ŵyr neb am y perchennog yn lleol
  • wedi'i ddifrodi'n sylweddol, ag ôl traul arno neu nad yw’n anaddas ar gyfer y ffordd, (er enghraifft, mae ganddo deiars fflat, olwynion ar goll neu ffenestri wedi torri)
  • mae’r platiau rhif ar goll

Canllaw yw'r rhestr hon ac nid oes angen i gerbyd fodloni’r meini prawf i gyd er mwyn iddo gael ei ystyried yn gerbyd wedi'i adael.

Rhoi gwybod am gerbyd wedi’i adael

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod i ni am gerbyd wedi’i adael

Byddwn ni’n:

  • ceisio cysylltu â’r perchennog
  • gadael nodyn ar y cerbyd yn rhybuddio y bydd yn cael ei symud os nad oes unrhyw un yn ei hawlio 
  • cael gwared ohono ar ôl hyn - byddwn ni’n mynd ag ef i amgaefa neu yn ei ddinistrio

Cael gwared ar gerbyd wedi’i adael

Gallwn ni gael gwared ar gerbyd wedi’i adael ar unwaith os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • dim ond ei ddinistrio sy’n addas
  • nid oes ganddo blatiau rhif na disg treth 

Ym mhob achos arall, mae’n rhaid i ni geisio dod o hyd i berchennog y cerbyd os gallwn ni.

Os byddwn ni’n dod o hyd i’r perchennog, mae’n rhaid i ni roi o leiaf 7 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i’r perchennog i gasglu’r cerbyd cyn cael gwared arno. Mae’n rhaid inni ddychwelyd cerbyd i'w berchennog os yw'r perchennog yn ei hawlio ac yn talu unrhyw gostau symud, storio a gwaredu.

Os na ellir dod o hyd i’r perchennog, neu os yw’r perchennog yn methu â chydymffurfio â hysbysiad i gasglu’r cerbyd, mae’n bosibl y byddwn ni’n cael gwared ar y cerbyd.

Gallwn ni gael gwared ar gerbyd wedi'i adael fel y gwelwn ni orau. Er enghraifft, gallwn ni ei werthu mewn ocsiwn neu drefnu iddo gael ei ddinistrio mewn cyfleuster wedi’i awdurdodi.

Cosb neu erlyniad

Gallwn ni gosbi pobl sy’n gadael cerbydau neu rannau o gerbydau ar ffyrdd neu dir yn yr awyr agored drwy naill ai:

  • rhoi rhybudd cosb benodedig o £200
  • eu herlyn

Rhoi gwybod am faterion cysylltiedig

Cerbyd heb MOT yn cael ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus

Os ydych chi wedi gwirio nad yw MOT cerbyd yn ddilys a bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus, gallwch chi roi gwybod i’ch heddlu lleol. Yn Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru yw’r rhain (dolen gyswllt allanol).

Cerbyd yn rhwystro ffordd gyhoeddus neu lwybr troed

Ffoniwch rif yr heddlu nad yw ar gyfer galwadau brys ar 101 a dywedwch ei fod yn fater yn ymwneud â pharcio peryglus a rhwystrol.

Cerbyd sydd ar dân neu'n cael ei fandaleiddio

Ffoniwch yr heddlu ar 999.