Mae llawer o bobl yn y DU yn mwynhau tyfu cynnyrch eu hunain ond nid pawb sy’n ddigon ffodus i fod â gardd digon mawr i wneud hynny. Mae rhentu plot mewn rhandir yn eich galluogi i dyfu ffrwythau a llysiau eich hunain hyd yn oed os nad oes gennych le i wneud hynny adref. 

Gwnewch gais am blot mewn rhandir

Ymgeisiwch rŵan

Mae yna bedwar rhandir yn cael eu rhedeg gan y cyngor sydd ar gael i breswylwyr Wrecsam eu rhentu. I wneud cais i rentu plot mewn rhandir byddwch angen llenwi’r ffurflen gais ar-lein. Os nad oes plotiau ar gael ar hyn o bryd yn eich safle o ddewis byddwch yna’n cael eich rhoi ar y rhestr aros.

Rhandiroedd Wrecsam

Rhandir Erddig (Caeau Hollow/Thomas), Ffordd Erddig, Wrecsam, LL13 7DT

Gwybodaeth am safle rhandir Ffordd Erddig...

  • Mae cyflenwad dŵr ar gael i denantiaid 
  • Mae ardal ar gyfer gwastraff na ellir ei gompostio yn galluogi tenantiaid i gael gwared ar wastraff na ellir ei gompostio o’r rhandir.
  • Ardal ar gyfer gwastraff y gellir ei gompostio (na ellir ei ddefnyddio ar y plotiau), mae’r gwastraff hwn yn cael ei gludo i ffwrdd fel gwastraff gwyrdd
  • Mae ffens ddiogel o amgylch y safle ac mae gan denantiaid allwedd i’r safle 

Rhandir Ffordd Buddug, Ffordd Buddug, Wrecsam LL13 7SF

Gwybodaeth am safle rhandir Ffordd Buddug...

  • Mae cyflenwad dŵr ar gael i denantiaid 
  • Mae ardal ar gyfer gwastraff na ellir ei gompostio yn galluogi tenantiaid i gael gwared ar wastraff na ellir ei gompostio o’r rhandir.
  • Ardal ar gyfer gwastraff y gellir ei gompostio (na ellir ei ddefnyddio ar y plotiau), mae’r gwastraff hwn yn cael ei gludo i ffwrdd fel gwastraff gwyrdd
  • Rydym yn annog tenantiaid i gompostio eu hunain ar y safle hwn 
  • Mae ffens ddiogel o amgylch y safle ac mae gan denantiaid allwedd i’r safle 

Rhandir Lôn Price, Lôn Price, Wrecsam LL11 2NB

Gwybodaeth am safle rhandir Lôn Price...

  • Mae cyflenwad dŵr ar gael i denantiaid 
  • Mae ardal ar gyfer gwastraff na ellir ei gompostio yn galluogi tenantiaid i gael gwared ar wastraff na ellir ei gompostio o’r rhandir.
  • Ardal ar gyfer gwastraff y gellir ei gompostio (na ellir ei ddefnyddio ar y plotiau), mae’r gwastraff hwn yn cael ei gludo i ffwrdd fel gwastraff gwyrdd
  • Mae ffens ddiogel o amgylch y safle ac mae gan denantiaid allwedd i’r safle 
  • Mae Cymdeithas Rhandiroedd Wrecsam yn rhedeg siop yn Lôn Price ac mae ar gael i bawb sydd â rhandir a garddwyr ac mae’n cynnig hadau, gwrteithiau, gwiail, gwrtaith ac ati.

Rhandir Tanyfron, Glen Way, Tanyfron, Wrecsam LL11 5TJ

Gwybodaeth am safle rhandir Tanyfron...

  • Mae cyflenwad dŵr ar gael i denantiaid 
  • Mae ardal lle na ellir compostio’r gwastraff yn galluogi tenantiaid i gael gwared ar wastraff na ellir ei gompostio o’r rhandir. 
  • Ardal ar gyfer gwastraff y gellir ei gompostio (na ellir ei ddefnyddio ar y plotiau), mae’r gwastraff hwn yn cael ei gludo i ffwrdd fel gwastraff gwyrdd
  • Mae ffens ddiogel o amgylch y safle ac mae gan denantiaid allwedd i’r safle 

Cost flynyddol 

Mae’r gost flynyddol ar gyfer rhandir yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac yn dibynnu ar faint y plot y byddwch yn ei rentu. Mae’r costau ar gyfer 2019/2020 fel a ganlyn:

  • Chwarter plot - £41
  • Hanner plot - £74
  • Plot cyfan - £126

Mae’n rhaid ei dalu ar ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn ac mae’r tenantiaethau yn rhedeg o fis Ebrill i fis Mawrth. 

Mae angen blaendal o £5 am allwedd i randir, fodd bynnag caiff hyn ei ad-dalu pan fyddwch yn rhoi’r gorau i’r plot. Cofiwch gadw eich derbynneb fel tystiolaeth o’ch taliad. 

Ffioedd rhandiroedd

Talwch rŵan

Cysylltwch â ni

contact-us@wrexham.gov.uk