Dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn disodli addysg grefyddol.

Rôl y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog 

Mae’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog yn cynghori’r awdurdod lleol ar addysgu a dysgu mewn perthynas â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan gynnwys:

  • Darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg orfodol ar gyfer dysgwyr 3-16 mewn ysgolion a gynhelir a lleoliad meithrin nas cynhelir a ariennir
  • Darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ddewisol ar gyfer dysgwyr chweched dosbarth, a fydd yn dod i rym fis Medi 2027 

Gall y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ddarparu cyngor ar y canlynol: 

  • Dulliau addysgu
  • Y dewis o ddeunyddiau addysgu
  • Hyfforddiant i athrawon 
  • Addoli ar y cyd mewn ysgolion cymunedol ac ysgolion sylfaen, nad oes ganddynt gymeriad crefyddol 
  • Unrhyw fater arall y mae’r awdurdod lleol yn cyfeirio ato neu fel sy’n briodol 

Mae cyngor y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog yn seiliedig ar Faes Llafur Cytunedig Wrecsam ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’r canllawiau Cwricwlwm i Gymru ar Hwb.

Adroddiad blynyddol 

Mae’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog yn cyhoeddi adroddiad blynyddol bob mis Chwefror sy’n amlinellu sut maen nhw wedi ymgymryd â’u swyddogaethau a pha gamau gweithredu y maen nhw wedi’u cymryd yn ystod y flwyddyn. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. 

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

Mae CYSAG Wrecsam yn dal yn bodoli ac yn parhau i gynghori’r awdurdod lleol ar addysg grefyddol tan y bydd y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru wedi gorffen. Fodd bynnag, mae’r cyngor bellach wedi’i gyfyngu i ddarpariaeth addysg grefyddol mewn ysgolion a gynhelir ar gyfer dysgwyr rhwng 11 a 18 oed yn unig, sy’n dal yn dilyn yr hen gwricwlwm. 

Dolenni perthnasol

Rhagor o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am Gyngor Ymgynghorol Sefydlog Wrecsam a CYSAG Wrecsam, yn cynnwys copïau o gofnodion a phapurau cyfarfodydd, anfonwch e-bost i clerktosac.rve@wrexham.gov.uk.