Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae addysg yn orfodol, ond nid yw’r ysgol.

Fel awdurdod addysg lleol Wrecsam, rydym ni’n cydnabod hawl pob plentyn i gael mynediad at addysg ac yn llwyr gydnabod bod addysg ddewisol yn y cartref yn un o’r opsiynau sydd ar gael i rieni.   

Yn Wrecsam, mae gennym ni rwydwaith addysg ddewisol yn y cartref bywiog a chefnogol. Rydym ni’n falch o weithio ochr yn ochr â’n teuluoedd wrth iddynt gymryd cyfrifoldeb am ddysgu eu plant.  

Os byddwch chi’n dewis addysgu gartref heb gofrestru mewn ysgol 

Gofynnwn eich bod yn rhoi gwybod i ni drwy e-bostio ehe@wrexham.gov.uk, er mwyn i ni fod yn ymwybodol ac y gallwn ni ddarparu cefnogaeth leol, yn yr amodau canlynol:

  • Os byddwch chi’n penderfynu eich bod eisiau darparu addysg gartref ac os nad ydynt wedi bod ar gofrestr ysgol o’r blaen 
  • Os ydych chi eisoes yn darparu addysg gartref a’ch bod yn symud i mewn i’r ardal

Os ydi eich plentyn wedi cofrestru mewn ysgol a’ch bod eisiau darparu addysg gartref

Os ydych chi’n ystyried cymryd eich plentyn allan o’r ysgol i’w addysgu gartref, fe fyddem ni’n eich annog i siarad gydag ysgol eich plentyn i gychwyn (gallwch ddod o hyd i’r manylion cysylltu ar ein rhestr ysgolion). Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref yn Wrecsam os oes gennych chi unrhyw gwestiynau. 

Os byddwch chi’n penderfynu darparu addysg gartref ar ôl ystyried y mater yn llawn, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r ysgol yn ysgrifenedig.

Ystyriwch y canlynol cyn i chi gymryd enw eich plentyn oddi ar y gofrestr: 

  • Fel y rhiant/gwarcheidwad, chi sydd yn gyfrifol am ddarparu addysg lawn amser ac addas i’ch plentyn. 
  • Mae’n bosibl y bydd yna nifer o gostau ynghlwm ag addysg gartref y mae’n rhaid i’r rhiant dalu amdanynt (yn cynnwys adnoddau, offer a ffioedd arholiadau).
  • Os byddwch chi’n tynnu eich plentyn allan o ysgol, efallai na fydd lle ar gael iddynt yn nes ymlaen os hoffech chi iddynt ddychwelyd i’r ysgol ar ôl iddynt adael. 
  • Nid tiwtora gartref yw addysg ddewisol yn y cartref - nid ydi’r awdurdod lleol yn darparu tiwtor i’ch plant. 

Ein dyletswydd

Mae dyletswydd arnom ni (o dan adran 436A Deddf Addysg 1996) i adnabod plant yn ein hardal sydd o oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt yn derbyn addysg addas. Rydym ni’n gwneud hyn gan ystyried canllawiau statudol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol am addysg ddewisol yn y cartref (dolen gyswllt allanol).

Mwy o wybodaeth

Gallwch hefyd anfon e-bost i ni ehe@wrexham.gov.uk.