Mae systemau bwyta heb arian yn golygu y gellir talu am brydau ysgol i gyfrif unigol eich plentyn ymlaen llaw. Mae hyn yn osgoi'r drafferth o orfod chwilio am newid bob diwrnod, mae llai o debygolrwydd y bydd arian yn cael ei golli ac mae mantolenni/disgrifiadau o’r bwydydd a brynir hefyd ar gael ar gais.
Gwybodaeth gyffredinol am fwyta heb arian parod
System bwyta heb arian ysgolion cynradd
Mae gan eich plentyn gyfrif unigol, gyda rhif pin 4 digid unigryw a fydd yn cael ei gyflwyno i chi er mwyn i chi allu defnyddio’r peiriant adbrisio (y peiriant y gellir rhoi arian ynddo er mwyn talu ymlaen llaw).
System bwyta heb arian ysgolion uwchradd (system biometreg)
Mae gan bob ysgol uwchradd system bwyta heb arian sy’n defnyddio technoleg fiometreg (mae’r system yn defnyddio olion bysedd i adnabod bob disgybl). Gwneir sgan o fys neu fawd bob plentyn yn ystod y diwrnod neu’r wythnos drosglwyddo gyffredin ym mis Gorffennaf.