Mae plant yn wynebu pwysau sylweddol a chynnwrf emosiynol pan fydd aelod o'r teulu yn cael ei garcharu. 

Pan fydd teulu yn cael ei effeithio gan garchariad:

  • mae'r teulu'n fwy tebygol o brofi tlodi a dyled, yn ogystal â theimlo stigma yn eu cymunedau 
  • mae plant yn tueddu i deimlo'n fwy ynysig mewn ysgolion ac yn fwy tebygol o wynebu ystod o ganlyniadau gwael, a allai arwain at fywydau tlawd/niweidiol.

Mae hyn hefyd yn effeithio ar blant a theuluoedd sydd â rhiant neu aelod o’r teulu mewn rhan arall o’r system cyfiawnder troseddol, ac nid dim ond yn y carchar.

Logo Prosiect Teuluoedd yr Effeithir Arnynt gan Garchariad

Ynglŷn â Phrosiect FABI

Mae'r prosiect hwn wedi'i sefydlu i godi ymwybyddiaeth o'r problemau a wynebir gan deuluoedd y mae carcharu yn effeithio arnynt, yn ogystal ag annog gwaith atal a chymorth wedi'i dargedu, heb stigma.

Prif nodau prosiect FABI yw:

  • Creu system ffurfiol i nodi plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar fel eu bod, yn systematig, yn dod yn grŵp ‘gweladwy’ y gellir ei gefnogi’n well 
  • Helpu gwasanaethau lleol i ddeall a mynd i’r afael yn well ag anghenion iechyd a lles plant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar 
  • Helpu ysgolion ac amgylcheddau addysgol eraill i ddarparu gwell cymorth i blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar 
  • Codi mwy o ymwybyddiaeth am effaith carcharu rhieni ar blant a theuluoedd

Gweledigaeth hirdymor y prosiect

“Sicrhau y cynhwysir y teulu cyfan wrth leihau effaith troseddu a charcharu ar blant a theuluoedd y dynion, merched a’r bobl ifanc sy’n ymddwyn yn droseddol yng Ngholedd Cymru, i gefnogi canlyniadau iechyd a lles cadarnhaol ar gyfer plant a’r teuluoedd i adeiladu gwydnwch a chyfrannu tuag at leihau troseddu rhwng cenedlaethau yn ogystal ag ail-droseddu.”

Dull amlasiantaeth

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys 10 partner ariannu ac yn adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru (dolen gyswllt allanol):

  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Sir y Fflint 
  • Swyddfa’r Comisiynydd Trosedd 
  • Carchar EM a Gwasanaethau Prawf Cymru
  • GIG Cymru
  • CEM Berwyn

Gweithwyr proffesiynol – cymerwch ran yn y prosiect

Os yw eich gwaith yn ymwneud â'r mater hwn, cysylltwch â ni os hoffech gefnogi'r prosiect, neu os ydych yn meddwl y gallech ein helpu i ddatblygu'r prosiect. 

Hoffem glywed gennych chi:

  • Os ydych chi’n coladu ffigurau ynglŷn â niferoedd plant neu deuluoedd o ogledd Cymru y mae’r mater hwn yn effeithio arnynt 
  • Os oes gennych chi ddealltwriaeth benodol o anghenion teuluoedd yr effeithir arnynt gan garchariad drwy’r gwaith rydych chi’n ei wneud bob dydd
  • Os ydych yn darparu cefnogaeth i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan garchariad
  • Os hoffech chi ddeall mwy am y mater hwn fel y gallwch chi ddarparu cefnogaeth yn y dyfodol

Cysylltwch â ni

E-bost: fabi@wrexham.gov.uk

Ychwanegwch eich gwasanaeth at ‘Dewis Cymru’

Os ydych yn darparu gwasanaeth lleol sy’n gallu cefnogi plant a theuluoedd y mae carchariad yn effeithio arnynt, rydym yn argymell eich bod yn ei ychwanegu at wefan Dewis Cymru.

Mae Dewis Cymru yn gyfeiriadur o wasanaethau cefnogi lleol yng Nghymru. Ei ddiben yw helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau lleol yng Nghymru a dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wella eu lles eu hunain.

Mwy o wybodaeth ac adnoddau

Sut y gall cael aelod o'r teulu yn y carchar effeithio ar blant a theuluoedd

Mae troseddau sy’n pontio’r cenedlaethau yn broblem fawr; canfu astudiaeth bwysig fod 65% o fechgyn sydd â thad yn y ddalfa yn mynd yn eu blaenau i droseddu eu hunain. 

Mae carcharu mam hefyd yn cael effaith barhaol ar blant, a dim ond 5% o blant sydd â’u mam yn y carchar sy’n aros yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’n werth nodi bod yr holl ferched o Ogledd Cymru sydd yn y ddalfa wedi eu cadw dan glo yn Lloegr.  

Mae plant â rhiant yn y carchar:

  • ddwywaith mor debygol o gael problemau â’u hymddygiad ac iechyd meddwl
  • yn llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol ac yn fwy tebygol o gael eu gwahardd
  • deirgwaith yn fwy tebygol o gyflawni trais domestig neu’i ddioddef
  • bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar gyffuriau

Bregusrwydd i ecsbloetio llinellau sirol

Mae plant a theuluoedd a gaiff eu heffeithio gan garchariad yn un o’r grwpiau diamddiffyn y gall gangiau troseddol trefniadol eu targedu drwy ‘linellau sirol’. Mae'r gangiau hyn yn defnyddio llinellau ffôn pwrpasol i symud a chyflenwi cyffuriau (fel arfer o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig), gan recriwtio pobl ddiamddiffyn i ddosbarthu'r cyffuriau.

Cysylltiadau teuluol yn helpu i leihau’r perygl o aildroseddu

Dengys ymchwil bod cysylltiadau agos rhwng carcharorion ac aelodau allweddol o’u teuluoedd yn gallu lleihau’r perygl o aildroseddu yn sylweddol.  

Comisiynodd Llywodraeth y DU astudiaeth bwysig i ymchwilio i sut y gallai cysylltu carcharorion â'u teuluoedd wella lles troseddwyr a lleihau’r perygl o aildroseddu. Manylir ar y canfyddiadau yn yr adroddiad dilynol ym mis Awst 2017 gan yr Arglwydd Farmer:

Gallwch hefyd anfon e-bost at email fabi@wrexham.gov.uk i ofyn am gopïau blaenorol o newyddlen FABI, yn ogystal â mwy o adnoddau a gwybodaeth gefndir am y testun hwn.

Dolenni perthnasol