Meithrin Cronfa o Dalent ein Hunain

Ymgeisiwch rŵan

Mae ceisiadau yn cau am hanner nos ar 31 Mai 2025.

Mae ein cynllun prentis Meithrin Cronfa o Dalent ein Hunain wedi cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod gennym gronfa o ymgeiswyr medrus yn gweithio ar draws ein gwasanaethau yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym ni wedi datblygu'r cynlluniau prentisiaeth hyn ledled y Cyngor sy’n cefnogi cefndiroedd gwahanol ac yn darparu ystod o gyfleoedd a phrofiadau gwaith i gyflawni cymwysterau yn y maes gyrfa yr ydych chi’n ei ffafrio.

Gallwn gynnig profiad gwaith gwerthfawr a chymorth i ddatblygu eich sgiliau, arbenigedd a’ch gwybodaeth a’r bwriad yw cael gwaith parhaol gyda ni.

Buddion

Fel prentis neu weithiwr dan hyfforddiant, gallwch fwynhau ystod o fuddion, gan gynnwys:

  • Dewis i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Gweithio’n hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith 
  • Hawl i wyliau blynyddol hael 
  • Amrywiaeth o fentrau ar gyfer iechyd a lles  
  • Cynllun gwobrwyo’r Cyngor sydd â nifer o ostyngiadau a chynigion
  • Gostyngiad ar aelodaeth mewn canolfannau hamdden
  • Dysgu, hyfforddiant a datblygu

Cynllun gwaith Amgylcheddol dan Hyfforddiant (2 flynedd)

Mae ein cynllun 2 flynedd yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr ac yn eich cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth, wrth weithio tuag at gyflawni cyflogaeth barhaol gyda ni. Mae ein rhaglen hyfforddeiaeth yn cyfuno gwaith swyddfa ac ar y safle, gan roi sgiliau a phrofiad i chi ac adeiladu eich hyder.

Fel gweithiwr dan hyfforddiant byddwch yn:

  • Ennill cyflog (Blwyddyn 1 - £24,027, Blwyddyn 2 - £24,404)
  • Treulio amser gyda staff profiadol a meithrin sgiliau ymarferol yn gyflym
  • Cael gwyliau â thâl a chael yr un buddion â gweithwyr eraill
  • Gweithio am 30 awr yr wythnos 
  • Meithrin sgiliau o amrywiaeth o leoliadau ledled ein Hadran Amgylchedd a Thechnegol

Lleoliadau Blwyddyn 1

Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch ar bedwar lleoliad. Bydd y rhain o fewn:

  • Gwastraff ac ailgylchu
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd
  • Cefnogaeth i Fusnesau
  • Prosiectau 

Lleoliadau Blwyddyn 2

Yn ystod yr ail flwyddyn byddwch yn cael eich rhoi ar bedwar lleoliad o’ch dewis o’r canlynol:

  • Gwastraff ac ailgylchu
  • Strategaeth Gwastraff
  • Contractau a Pheirianneg
  • Cludiant
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd
  • Gorfodi
  • Lleihau Carbon
  • Cefnogaeth i Fusnesau
  • Rheoli Fflyd
  • Prosiectau 
  • Yr Amlosgfa a Mynwentydd
  • Gwaith Stryd
  • Mannau Agored
  • Goleuadau Stryd