Gallwch ddathlu anwylyd neu achlysur arbennig drwy ddewis mainc i ni ei roi yn un o’n parciau. 

Mae’r dewisiadau sydd ar gael yn dibynnu ar y parc yr hoffech chi roi’r gofeb neu’r dathliad ynddo.

Gall y prisiau newid, ond byddwn yn eu cadarnhau ar ôl derbyn dyfynbrisiau gan ein cyflenwyr.

Ar gael i’w rhoi yn unrhyw barc gwledig

Mainc dderw â chefn

Yn cynnwys plac, danfon a gosod

Amcanbris: £750

Image
Mainc dderw frown golau gyda slatiau llorweddol i eistedd arnynt ac i gefnogi’r cefn.

Mainc dderw hirgrwn

Yn cynnwys plac, danfon a gosod 

Amcanbris: £450

Image
Mainc dderw frown euraid gydag estyllod llorweddol â therfynau crwn i eistedd arnynt.

Ar gael i’w rhoi ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr

Byrddau picnic dur ‘parhaol’

Yn cynnwys plac, danfon a gosod Y byrddau metel yma yw’r rhai mwyaf anodd i fandaliaid eu dinistrio. 

Amcanbris: £1,300 am fwrdd petryal neu £1,800 am fwrdd crwn.

Image
Bwrdd picnic dur du siâp petryal, gyda slatiau llorweddol a dwy fainc gyda slatiau llorweddol yn sownd bob ochr.

 

Image
Bwrdd picnic crwn du wedi’i wneud allan o ddur, gyda slatiau llorweddol a thair mainc gron dur gyda slatiau yn sownd ynddo.

 

 

Seddi Dur 'Harlech'

Yn cynnwys plac, danfon a gosod. Gallwch ddewis terfynau syth neu grwn.

Amcanbris: £750

Image
Mainc goch wedi’i gwneud allan o ddur, gyda slatiau llorweddol i eistedd arnynt ac i gefnogi’r cefn. Mae gan y slat ar flaen y sedd a’r slat uchaf i gefnogi’r cefn derfynau crwn.

 

Image
Mainc las tywyll wedi’i gwneud allan o ddur, gyda slatiau llorweddol ag ymylon syth i eistedd arnynt ac i gefnogi’r cefn.

 

Sedd bren drom draddodiadol (iroco)

Yn cynnwys plac, danfon a gosod.

Amcanbris: £800    

Image
Mainc bren lliw euraid gyda breichiau, slatiau llorweddol i eistedd arnynt a slatiau fertigol i gefnogi’r cefn.

Ar gael i’w rhoi ym Mharc Acton

Mainc haearn bwrw

Amcanbris: £1500

Image
Mainc haearn bwrw gyda slatiau llorweddol gwyrdd i eistedd arnynt ac i gefnogi’r cefn, a choesau a breichiau du. Mae llythyren ‘w’ Cyngor Wrecsam wedi’u rhoi mewn aur ar derfynau’r breichiau.

Cysylltwch â cheidwad y parc

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech chi drafod eich anghenion, mae croeso i chi gysylltu â Cheidwad y Parc.

E-bost: countryparks@wrexham.gov.uk