Deddf Etholiadau 2022

Mae Llywodraeth y DU wedi pasio deddf a fydd yn newid y ffordd rydych yn pleidleisio mewn Etholiadau Seneddol ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd. Enw’r ddeddf yw Deddf Etholiadau 2022.

Nid yw’r ddeddf hon yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam na’r Cynghorau Cymuned.  Caiff y ddeddfwriaeth ar gyfer y rhain ei gosod gan Lywodraeth Cymru.

Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio

O Fai 2023, fe fydd angen i chi ddangos ffurf wedi ei chymeradwyo o brawf adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio pan fo etholiadau Seneddol neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.

Pa brawf adnabod â llun y gallwch chi ei ddefnyddio

Mae’n rhaid i chi ddangos ffurf wedi ei chymeradwyo o brawf adnabod â llun, fel pasbort neu drwydded yrru.

Dim ond dogfennau gwreiddiol a gaiff eu derbyn. Ni fydd lluniau sydd wedi eu sganio neu gopïau yn cael eu derbyn. 

Os yw eich prawf adnabod â llun wedi dirwyn i ben, fe fydd yn cael ei dderbyn os yw’r llun yn dal i fod yn debyg i chi.

 Mae’r ffurfiau mwyaf cyffredin a gaiff eu defnyddio a’u derbyn o brawf adnabod yn cynnwys:

  • Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, statws Ardal Economaidd Ewropeaidd neu un o wledydd y Gymanwlad.
  • Trwydded yrru gyda llun a gyhoeddwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd neu un o wledydd y Gymanwlad.
  • Cerdyn adnabod â llun Ardal Economaidd Ewropeaidd 
  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Profi Oedran 
  • Bathodyn Glas
  • Cerdyn Bws Unigolyn Hŷn
  • Cerdyn Bws Unigolyn Anabl
  • Cerdyn Oyster 60+

Os nad ydych yn sicr p’run ai yw’r ffurf o brawf adnabod â llun sydd gennych ar hyn o bryd yn cael ei dderbyn, mae rhagor o wybodaeth ar y ffurfiau o brawf adnabod a gaiff eu derbyn ar wefan GOV.UK (dolen gyswllt allanol). 

Fel arall, fe allwch gysylltu â’n tîm Gwasanaethau Etholiadol i gael cymorth. 

Beth i’w wneud os nad oes gennych chi ffurf o brawf adnabod sydd wedi’i chymeradwyo

Os nad oes gennych chi ffurf o brawf adnabod sydd wedi’i chymeradwyo, fe fydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr rhad ac am ddim.

Gallwch wneud cais ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy wefan GOV.UK (dolen gyswllt allanol).

Gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy argraffu a llenwi ffurflen bapur a’i hanfon at ein tîm Gwasanaethau Etholiadol. Gallwch hefyd anfon e-bost neu ffonio ein tîm Gwasanaethau Etholiadol i ofyn am gopi papur o’r ffurflen hon.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, ni fydd ganddo ddyddiad terfyn.  Fodd bynnag, fe’ch cynghorir i adnewyddu eich Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ymhen 10 mlynedd i sicrhau fod y llun yn parhau yn wirioneddol debyg i chi.

Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr fydd 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.

Yr etholiad nesaf fydd yn Wrecsam lle bydd angen i chi ddangos prawf adnabod â llun neu Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr er mwyn pleidleisio fydd Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ym Mai 2024. 

Pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy

Os ydych yn dewis pleidleisio drwy’r post, ni fyddwch yn cael eich effeithio a byddwch yn cael eich papurau pleidleisio post fel arfer.

Os ydych yn dewis pleidleisio drwy ddirprwy, yna bydd rhaid i’r unigolyn yr ydych wedi ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan fynd â’u prawf adnabod â llun eu hunain.  Os nad oes ganddynt brawf adnabod â llun yna ni fyddant yn cael y papur pleidleisio.  

Newidiadau pellach i’r system etholiadol

Mae llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau eraill i system etholiadol y DU hefyd. Caiff y rhain i gyd eu cynnwys yn y Ddeddf Etholiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddf hon fe allwch ymweld â gwefan y Comisiwn Etholiadol (dolen gyswllt allanol).

Cysylltwch â ni

Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais cysylltwch â ni. 

Y Gwasanaethau Etholiadol
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY 

E-bost: electoral@wrexham.gov.uk

Rhif ffôn: 01978 292020