O 6 Ebrill 2024, daeth yn ofynnol o dan y gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu.

Mae’r gyfraith hon yn berthnasol i bob casglwr a phrosesydd gwastraff ac ailgylchu sy’n rheoli gwastraff o fath domestig o weithleoedd.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r gyfraith hon i wella ansawdd sut rydym yn casglu a gwahanu gwastraff, yn ogystal â’r cyfanswm.

Pa wastraff sydd angen ei wahanu

Bydd angen gwahanu’r deunyddiau canlynol ar gyfer eu casglu, a dylent gael eu casglu ar wahân:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metelau, plastig a chartonau
  • Tecstilau sydd heb eu gwerthu
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)

Mae gwaharddiad hefyd ar:

  • Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
  • Gwastraff a gesglir ar wahân sy'n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
  • Pob gwastraff pren sy'n mynd i safleoedd tirlenwi

I bwy mae'r gyfraith yn berthnasol

Mae angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Safleoedd amaethyddol
  • Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe
  • Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth - gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenyddion
  • Cartrefi gofal a nyrsio
  • Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
  • Safleoedd adeiladu
  • Ffatrïoedd a warysau
  • Garejis ceir
  • Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Canolfannau garddio
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Swyddfeydd a gweithdai
  • Mannau addoli
  • Carchardai
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored

Yr unig weithle sydd â dwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio yw'r GIG ac ysbytai preifat.

Ar gyfer gweithleoedd sy’n creu ac yn trin gwastraff bwyd

Mae’r gyfraith i wahanu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw eiddo sy’n creu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos, fel:

  • Gwestai
  • Bwytai
  • Caffis
  • Tecawes
  • Busnesau arlwyo (yn cynnwys stondinau bwyd mewn digwyddiadau)
  • Neuaddau bwyta mewn canolfannau siopa
  • Ffreuturau
  • Tafarndai
  • Swyddfeydd gyda ffreuturau, caffis, neu gyfleusterau cegin i’w staff
  • Ysgolion, colegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai
  • Unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd

Os ydych chi’n cynhyrchu unrhyw wastraff bwyd, ni chewch ei roi i lawr y sinc, na gadael iddo fynd i garthffos neu ddraen cyhoeddus.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio mwydwyr (macerators) (neu dechnoleg debyg, fel treulwyr ensymau neu ddulliau tynnu dŵr) i gael gwared ar wastraff bwyd lawr y sinc i ddraen neu garthffos. Nid oes angen tynnu mwydwyr, ond gallech ddewis eu tynnu i atal staff rhag eu defnyddio.

Pam y cafodd y gyfraith ei chyflwyno a beth yw’r manteision?

Dyma fanteision ailgylchu:

  • Cynyddu faint o ddeunydd eilgylch y gall cynhyrchwyr yng Nghymru ei ddefnyddio, a gwella ei ansawdd
  • Cefnogi gweithleoedd i leihau eu gwastraff
  • Lleihau allyriadau carbon
  • Helpu’r economi greu Cymru wyrddach

Sut mae’r gyfraith yn cael ei gorfodi

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod deunyddiau yn cael eu gwahanu a’u casglu’n gywir, a bod y gwaharddiad ar anfon ailgylchu i dirlenwi neu i’w losgi yn cael ei ddilyn.

Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y gwaharddiad ar wastraff bwyd yn mynd i garthffosydd yn cael ei ddilyn.

Os nad ydych yn cydymffurfio â’r gyfraith, gallai olygu dirwy i’ch gweithle.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ailgylchu yn y gweithle Llywodraeth Cymru (dolen gyswllt allanol).

Gallwch hefyd ddysgu mwy ar dudalen y Busnes o Ailgylchu Cymru WRAP Cymru (dolen gyswllt allanol).