Image
Yew

Gweld y goeden ‘bythol’.

Disgrifiad

  • Uchder cyfartaledd a lledaeniad yn gallu bod hyd at 20 x 20 medr
  • Deiliant: Bytholwyrdd
  • Dail: Nodwyddau syth a bach gyda phen miniog, mae lliw yn amrywio o wyrdd tywyll i wyrddlwyd.
  • Brodorol i’r DU: Ydy. 

A wyddoch chi?

  • Yr Ywen yw’r rhywogaeth coeden brodorol sydd yn byw hiraf yn Ewrop. Mae Ywen Llangernyw, yr ywen hynaf yng Nghymru wedi’i hamcangyfrif i fod yn 4,000 i 5,000 oed.
  • Credir bod coed ywen yn symboleiddio bywyd a marwolaeth drwy hanes; i’w gweld fel arfer mewn mynwentydd, mae’r canghennau sy’n hongian yn gallu gwreiddio a ffurfio boncyff newydd lle maent yn cyffwrdd y llawr, gan ganiatáu’r goeden i ‘atgyfodi’ ei hun.
  • Mae ei mwyar coch sydd yn dod yn yr hydref/ gaeaf, yn symbol pellach o farwolaeth sydd yn dilyn y goeden Ywen, llawn sudd ond yn wenwyn petaech yn eu bwyta. Maent yn cynnwys alcaloidau tacsan sydd wedi’i ddatblygu bellach fel cyffuriau gwrth-ganser.