Image
London Plane

Coeden sydd yn fwy cyffredin mewn dinasoedd nac yn y gwyllt. 

Disgrifiad

  • Uchder cyfartaledd a lledaeniad yn gallu bod hyd at 35 x 24 medr
  • Deiliant: Collddail
  • Dail: Dail tebyg i’r sycamorwydden sydd yn debyg i ledr ac yn drwchus, gyda phum llabed triongl.
  • Brodorol i’r DU: Nac ydi 

A wyddoch chi?

  • Ni fyddwch yn dod o hyd i’r goeden hon yn y gwyllt. Mae Pilcoes y Ddinas yn groesryw damweiniol o sycamorwydden Americanaidd a philcoes gogwydd a ganfuwyd yn gyntaf yn Llundain yn ystod y 17eg Ganrif, sef yr enw Saesneg London plane.  Hon yw’r goeden fwyaf poblogaidd yn y brifddinas bellach.
  • Mae coed Pilcoes y Ddinas yn gwrthsefyll llygredd, sydd yn eu gwneud yn ffefryn mewn dinas ers yr 19eg ganrif. Mae’r rhisgl yn torri i ffwrdd yn hawdd mewn haenau mawr i lanhau ei hun rhag llygryddion sydd hefyd yn rhoi ymddangosiad cuddliw gwahanol i’r rhisgl. 
  • Mae’n goeden sy’n dueddol o gael afiechyd o’r enw Massaria a all greu briwiau ar y canghennau sy’n arwain yn y pen draw i wanhau a lladd pob cangen.