Image
Elm

(yn perthyn i Lwyfen Lydanddail (Wych Elm) Ulmus glabra)

Hoff goeden gwrach o bosib?

Disgrifiad

  • Uchder cyfartaledd a lledaeniad yn gallu bod hyd at 30 x 21 medr
  • Deiliant: Collddail
  • Dail: Igam-Ogam a 7-16cm mewn hyd. Mae ganddynt fôn nodweddion siapiau gwahanol ac wedi tapro at bwynt disymwth ar y brig.
  • Brodorol i’r DU: Ydy. 

A wyddoch chi?

  • Mae afiechyd llwyfen yr isalmaen wedi cael gwared â’r boblogaeth o Lwyfen Lydanddail yn y DU, felly dyma pam ein bod wedi dewis Llwyfen ag ymwrthedd at haint yn y lleoliad hwn. Mae afiechyd llwyfen yr isalmaen yn cael ei achosi gan chwilen sydd yn ymosod ar y goeden. Credir bod y chwilen hon yn hedfan uchder o 10 medr, ac felly yn methu Llwyfen ifanc, ond unwaith mae’r goeden yn cyrraedd taldra o 10 medr neu fwy, mae yn llwybr hedfan y chwilen ac felly mewn risg uchel.
  • Nid yw Llwyfen Lydanddail yn gysylltiedig â gwrachod. Mae’r enw yn berthnasol i’r ffaith bod y pren yn hyblyg. Byddai saethwyr canoloesol yng Nghymru yn gwneud eu bwa o’r Llwyfen Lydanddail.
  • Mae plannu coed yng nghanol dinasoedd yn helpu i fynd i’r afael ag effaith gwres trefol ac achosi gan adeiladau, sydd yn gwneud ardaloedd trefol yn gynhesach nag ardaloedd gwledig. Mae coed yn cynnig cysgod yn ogystal â thrydarthiad, sef pan mae dŵr o fewn y goeden yn cael ei ryddhau fel anwedd dŵr drwy eu dail, gan ostwng tymheredd o amgylch y goeden.