Image
Silver Birch

Mae’r triawd o goed yn cael eu henw o’r rhisgl gwyn arian ar ei boncyff. 

Disgrifiad

  • Uchder cyfartaledd a lledaeniad yn gallu bod hyd at 25 x 10 medr
  • Deiliant: Collddail
  • Dail: Gwyrdd golau, bach a siâp triongl gydag ymylon igam-ogam.
  • Brodorol i’r DU: Ydy. 

A wyddoch chi?

  • Mae’r Fedwen Arian yn cael ei hadnabod fel rhywogaeth goed arloesol oherwydd fel arfer mae’n un o’r rhywogaeth gyntaf i gytrefu tir. Hefyd mae’n un o’r coed cyntaf sydd yn cael dail yn y Gwanwyn, ac oherwydd hynny mae’n cael ei adnabod i fod yn symboleiddio adnewyddu a dechreuad newydd.
  • Roedd coed bedwen yn cael eu defnyddio mewn llên gwerin Geltaidd i lanhau a phuro cartrefi a chael gwared ar hen ysbrydion. Yn aml iawn mae ysgubau yn cael eu gwneud gan frigau bedwen a dal yn cael eu defnyddio i ‘buro’ gardd yn y Gwanwyn.
  • Mae’r blew bach sydd ar y ddeilen yn dal lefel sylweddol o lygryddion yn yr aer sydd yn gwneud y fedwen yn goeden drefol wych i lanhau’r aer yr ydym yn anadlu.