3 Mawrth 2020

Mae gwybodaeth bersonol a gesglir gennych er mwyn cofrestru digwyddiad yn ofynnol gan y gyfraith.

Y prif ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu casglu gwybodaeth gofrestru yw’r Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, Deddf Priodas 1949 a Deddf Partneriaeth Sifil 2004. Efallai ei bod yn rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch, dan y cyfreithiau hyn, i ddarparu gwybodaeth benodol.  Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol, efallai y bydd rhaid i chi dalu dirwy, ymysg pethau eraill, neu efallai na fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth rydych yn gwneud cais amdano, fel priodas neu bartneriaeth sifil.

Gellir casglu gwybodaeth bersonol gennych hefyd os ydych yn gwneud cais i'r swyddfa hon, er enghraifft am dystysgrif neu i gywiro gwybodaeth mewn cofnod ar gofrestr.

Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu yn cael ei chadw a’i phrosesu gan swyddogion cofrestru ar gyfer y rhanbarth cofrestru hwn.

Y cofrestrydd arolygol yw’r rheolwr data ar gyfer cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau a gellir cysylltu â nhw yn Swyddfa Gofrestru Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam. LL11 1AY.

Yr awdurdod lleol yw’r rheolydd data ar gyfer cofrestru partneriaethau sifil, a gellir cysylltu â nhw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam. LL11 1AY.

Cofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr yw’r rheolydd data ar y cyd ar gyfer cofrestru genedigaethau, priodasau, marwolaethau a phartneriaethau sifil, a gellir cysylltu â nhw yn y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, Trafalgar Road, Southport, PR8 2HH.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer yr awdurdod lleol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam. LL11 1AY.

Bydd copi o unrhyw gofnod cofrestr yn cael ei ddarparu gan y swyddfa hon i unrhyw ymgeisydd, yn unol â’r gyfraith, cyn belled eu bod yn rhoi digon o wybodaeth i adnabod y cofnod dan sylw ac yn talu’r ffi briodol. Gellir ond rhoi copi ar ffurf copi papur ardystiedig (“tystysgrif”). Gellir gwneud cais am dystysgrif hefyd i’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Mae mynegai ar gyfer digwyddiadau a gofrestrwyd yn y swyddfa hon ar gael yn gyhoeddus er mwyn helpu'r cyhoedd i adnabod y cofnod cofrestru y maent ei angen.  

Mae mynegai ar gael ar ffurf papur ac ar gyfer blynyddoedd penodol, ar-lein yn: http://www.northwalesbmd.org.uk/index.php (dolen gyswllt allanol).

Os yw’r wybodaeth yn y mynegai lleol ar gael ar-lein, bydd yn cael ei wneud mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data a Hawliau Dynol.

Bydd copi o’r wybodaeth a gesglir gan swyddog cofrestru hefyd yn cael ei anfon at Gofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr fel y gellir cynnal cofnod canolog o’r holl gofrestriadau. Gellir rhannu gwybodaeth gofrestru a gedwir yn y swyddfa hon gyda sefydliadau eraill wrth wneud ein swyddogaethau, neu i alluogi eraill i wneud eu swyddogaethau nhw.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth os oes sail gyfreithiol i wneud hynny am y rhesymau a ganlyn:

  1. Pwrpasau ystadegol neu ymchwil
  2. Pwrpasau gweinyddol gan gyrff swyddogol er enghraifft sicrhau bod eu cofnodion yn gyfredol er mwyn rhoi gwasanaethau i’r cyhoedd
  3. Pwrpasau atal neu ganfod twyll, mudo a phasportau

Mae gennych hawl i ofyn am fynediad i'r wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch, cael gwybodaeth ynglŷn â chasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cywiro gwybodaeth anghywir (os yw’r gyfraith yn caniatáu) a gwneud cais i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i wrthwynebu i brosesu eich gwybodaeth bersonol.  Ni fydd eich gwybodaeth yn amodol ar wneud penderfyniadau awtomatig.

Cedwir gwybodaeth gofrestru am gyfnod amhenodol fel sy’n ofynnol gan y gyfraith. Cedwir data personol arall am y cyfnod a nodwyd yn y Cynllun Cadw Cofnodion Corfforaethol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am gasglu, defnyddio neu datgelu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â cofrestru@wrecsam.gov.uk.

Mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen gyswllt allanol) ynglŷn â’r modd yr ydym yn trin eich gwybodaeth bersonol.