22 Chwefror 2023

Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i’r Tîm Atal a Datblygu Gwasanaeth.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
  • Tîm Datblygu Gwasanaeth (Grantiau a rhaglenni a gaiff eu hariannu gan grantiau)
  • Panel Gofal Plant yr Enfys CBSW
  • Tîm Gofal Plant
  • Panel Ariannu Gofal Plant
  • Y Porth Lles

Mae’r Tîm Atal a Datblygu Gwasanaeth yn darparu gwasanaethau i ddinasyddion mewn perthynas â dyletswyddau dan y ddeddfwriaeth a ganlyn:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Gofal Plant 2006
  • Canllawiau Dechrau’n Deg (gofal plant)
  • Canllawiau Cynnig Gofal Plant i Gymru
  • Grant Gofal Plant a Chwarae, Cronfa Datblygiad Plant, Cronfa Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar, grantiau cyfalaf y Cynnig Gofal Plant, grant Seibiant i Ofalwyr, Telerau ac Amodau’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol Llywodraeth Cymru
  • Canllawiau Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru
  • Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • ‘Darparu Gwybodaeth o Safon i Deuluoedd gyda’n Gilydd’
  • Safonau Ansawdd Gofynnol Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru yng Nghanllawiau’r Ddeddf Gofal Plant

Gwybodaeth a gesglir am rieni / gofalwyr a’u plant, pobl ifanc ac atgyfeirwyr ac ymgeiswyr, darparwyr gwasanaeth a gomisiynir

Detholiad o’r canlynol, fel sy’n briodol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Manylion Cyswllt
  • Perthynas Agosaf
  • Ethnigrwydd
  • Crefydd / Cred
  • Rhyw
  • Iaith
  • Cyfansoddiad Teuluol
  • Gwybodaeth Iechyd
  • Gwybodaeth Ariannol
  • Gwybodaeth am Gais
  • Gwybodaeth am berthnasoedd 
  • Gwybodaeth Atgyfeirio/Asesu
  • Manylion Cyflogaeth
  • Gwybodaeth Achosion Perthnasol
  • Manylion Addysg / Hyfforddiant
  • Asiantaethau eraill sy’n gysylltiedig â'r teulu
  • Gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd neu anghenion ychwanegol

Asiantaethau y gallem rannu’r wybodaeth gyda nhw

  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Sefydliadau Gofal Plant
  • Gwasanaethau a gomisiynir
  • Ysgolion
  • Adrannau eraill o fewn Awdurdod Lleol CBSW
  • Gwasanaethau Trydydd Sector
  • Iechyd

Pwrpas prosesu

  • Darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth
  • Darparu ymyrraeth gynnar a gwasanaethau atal
  • Darparu seibiant a gofal plant
  • Darparu cyllid i leoliadau gofal plant fel y nodir yn yr amodau a thelerau ar gyfer pob grant
  • Gwybodaeth prosesu ar gyfer darparwyr gofal plant, gan gynnwys ariannol a busnes
  • Comisiynu gwasanaeth
  • Darpariaeth gwasanaeth, monitro a gwelliant
  • Hyfforddiant staff
  • Ymchwilio i gwynion
  • Rheoli ansawdd