18 Mawrth 2021

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn sefydliad cydweithio rhwng chwe asiantaeth fabwysiadu awdurdod lleol. Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn cyflawni dyletswyddau cyfreithiol fel Gwasanaeth Mabwysiadu ar ran y chwe awdurdod lleol ac rydym hefyd ddarparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n ymwneud â mabwysiadu. 

Eich gwybodaeth bersonol

Oherwydd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) yw’r sefydliad sy'n lletya Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, mae rhagor o fanylion am pam fydd CBSW yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol; beth allwch ei wneud gyda’ch gwybodaeth (eich hawliau fel gwrthrych y data); a sut rydym ni’n diogelu eich gwybodaeth, wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd corfforaethol “Eich gwybodaeth bersonol”. 

Pam yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol?

Ein prif weithgaredd yw gwirio a yw’r bobl a hoffai fabwysiadu plentyn yn addas i fod yn fabwysiadwyr. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i ni gasglu llawer o wybodaeth bersonol am y darpar fabwysiadwyr a’r bobl sydd wedi bod yn bwysig yn eu bywydau. Mae hyn oherwydd bod y cyfreithiau sy’n ymwneud â mabwysiadu’n golygu bod rhaid i ni wirio hanes a chefndir pobl yn drylwyr. 

Yn ogystal ag asesu mabwysiadwyr, rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl y mae mabwysiadu’n effeithio arnynt, ac weithiau, bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol ganddynt. Er enghraifft, rydym yn cael ceisiadau am gymorth ar ôl mabwysiadu a’r cynllun ‘blwch post’. Nid oes angen cymaint o wybodaeth bersonol ar gyfer y rhain â’r broses fabwysiadu ei hun, ond byddant yn golygu bod angen i ni gael rhywfaint o wybodaeth bersonol gyfyngedig. 

Fyddwn ni ond yn defnyddio’r hyn rydym ni ei angen

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn casglu gwybodaeth bersonol am ddarpar fabwysiadwyr ganddyn nhw eu hunain a gan amrywiaeth o bobl yn eu bywydau, fel ffrindiau, teulu, cynbartneriaid a chanolwyr. Caiff gwybodaeth ychwanegol ei chasglu gan sefydliadau perthnasol, yn dibynnu ar amgylchiadau’r darpar fabwysiadwr, fel meddygon teulu, ymgynghorwyr ac awdurdodau lleol eraill lle mae’r ymgeiswyr wedi byw. 

Yng ngham cynnar asesu addasrwydd, daw’r rhan fwyaf o wybodaeth gan yr unigolyn ei hun a’r ffynonellau maen nhw’n eu darparu.

Mae’r broses asesu’n gofyn yn raddol am ragor o wybodaeth ac yn y pen draw, erbyn i ni allu gwneud penderfyniad am ddarpar fabwysiadwr, bydd angen i ni wybod:

  • Eu hanes personol a hanes eu perthnasoedd 
  • Hanes eu teulu 
  • Eu rhan mewn unrhyw weithgarwch troseddol 
  • Eu hanes meddygol llawn 
  • Eu profiad fel rhiant (os yw’n berthnasol) 
  • Barn gyfrinachol pobl allweddol yn eu bywydau am eu potensial i fabwysiadu’n llwyddiannus. 

Bydd angen i ni fod â lefel debyg o fanylder am unrhyw un sy’n byw gyda’r darpar fabwysiadwyr hefyd. 

Rydym yn cynghori darpar fabwysiadwyr i sicrhau bod y bobl maen nhw’n byw gyda nhw yn ymwybodol o’r math o wybodaeth sy’n ofynnol cyn iddynt wneud cais i fabwysiadu. 

Sut mae’r gyfraith yn caniatáu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae nifer o resymau cyfreithiol pam fod angen i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am ddarpar fabwysiadwyr. Mae’r ddeddfwriaeth benodol wedi’i nodi isod:

  • Deddf Mabwysiadu 1976 
  • Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 
  • Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 
  • Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Panel a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2012 
  • Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005 a 2019
  • Cyfarwyddiadau Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Trefniadau Mabwysiadu ar y Cyd) (Cymru) 2015 
  • Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019
  • Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2020
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Rydym hefyd yn ystyried unrhyw ganllawiau dilynol perthnasol sy’n ymwneud â’r cyfreithiau hyn. 

Beth yw pwrpas prosesu eich gwybodaeth bersonol?

  • Darparu Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol
  • Gwella Gwasanaethau 
  • Hyrwyddo’r Gwasanaethau Mabwysiadu 
  • Hyfforddiant a datblygiad
  • Rheoli a goruchwylio staff
  • Cynllunio Gwasanaethau
  • Ymgynghoriad Defnyddwyr Gwasanaeth

Pwy fydd yn gweld y wybodaeth mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn ei chasglu a’i chofnodi? 

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i Banel Mabwysiadu roi ystyriaeth i wybodaeth asesu am ddarpar fabwysiadwr/fabwysiadwyr. Mae’r Panel Mabwysiadu yn cynnwys aelodau annibynnol yn ogystal ag aelodau cyflogedig. 

Mae’r panel yn cynnwys cadeirydd annibynnol, aelodau annibynnol, mabwysiadwyr, oedolion a gafodd eu mabwysiadu pan oeddent yn blant, gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr etholedig.
 
Mae’r wybodaeth a welir gan y Panel Mabwysiadu wedi’i diogelu’n fawr a chaiff mesurau diogelwch arbennig eu dilyn i sicrhau na all unrhyw un arall weld gwybodaeth. Mae amgylchiadau cyfyngedig iawn lle gall unrhyw un arall gael mynediad i’r wybodaeth a gaiff ei chadw amdanoch chi, a dim ond pan gaiff yr amgylchiadau hyn eu hegluro mewn deddfwriaeth fabwysiadu berthnasol, fel arolygwyr gofal a gaiff eu penodi gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu Gomisiynydd Plant Cymru. 

Bydd gan ddarpar fabwysiadwyr fynediad i Ran 1 yr Adroddiad Mabwysiadu. Nid oes ganddynt unrhyw hawl i gael mynediad i Ran 2 yr adroddiad hwnnw oherwydd mae’n cynnwys y geirdaon cyfrinachol annibynnol. 

Ar ôl i’r panel gymeradwyo, bydd y dasg o ddarganfod teulu yn dechrau. Pan gaiff cyswllt posibl ei nodi, caiff yr adroddiad wedi’i gwblhau ei rannu’n ddiogel gyda’r penderfynwr mabwysiadu a fydd yn darllen yr adroddiad a rhoi ystyriaeth i’r cyswllt. Dim ond at ddibenion ystyried y cyswllt hwnnw y caiff yr adroddiad ei ddefnyddio gan yr asiantaeth fabwysiadu. 

Mae asiantaethau eraill y byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda nhw o bosibl fel a ganlyn:

  • Adrannau CBSW
  • Cynghorau
  • Llysoedd
  • Darparwyr Annibynnol
  • Ysgolion
  • Gwasanaeth Prawf
  • Darparwyr Trydydd Sector
  • Meddygon Teulu
  • Ymddiriedolaethau Iechyd
  • Ymddiriedolaethau Iechyd Meddwl
  • Yr Heddlu
  • Cyrff Rheoleiddio
  • Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
  • Cofrestrau Mabwysiadu (Lloegr, yr Alban, Iwerddon)
  • NSPCC

Beth allwch chi ei wneud gyda'ch gwybodaeth

Mae’r gyfraith yn rhoi nifer o hawliau i chi i reoli pa wybodaeth bersonol a ddefnyddir gennym a sut y caiff ei ddefnyddio gennym. Mae ein gwefan ar ‘Eich gwybodaeth bersonol’ yn cynnwys rhagor o fanylion ynglŷn â sut yr ymdrinnir â’ch gwybodaeth bersonol.