Ceir dros 850km o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n cynnwys llwybrau troed cyhoeddus, llwybrau ceffylau a chilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig. Mae’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor, yn unol ag Adran 130 Deddf Priffyrdd 1980, i ddatgan a gwarchod hawliau’r cyhoedd o ran defnyddio a mwynhau hawliau tramwy ac i atal unrhyw un rhag cau neu rwystro’r hawliau tramwy cyhoeddus hyn heb awdurdod.

Y nod yw sicrhau bod hawliau tramwy cyhoeddus mewn cyflwr diogel a bod y cyhoedd yn gallu eu defnyddio'n hawdd. Mae’r Cyngor yn ymgymryd â gwaith ymarferol i’w cynnal a’u cadw. Pan fo problemau gorfodi yn digwydd, bydd yn defnyddio cyngor, perswâd, camau gweithredu uniongyrchol a/neu erlyniad i'w datrys.

Er mwyn osgoi problemau gorfodi, bydd y Cyngor yn darparu cyngor, cymorth ymarferol ac arweiniad i helpu tirfeddianwyr a deiliaid gydymffurfio â’r gyfraith. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth, addysg a chyngor i’r rheiny sy’n dymuno defnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn Wrecsam.

Mae rheoli swyddogaeth cynnal a chadw a gorfodi hawliau tramwy cyhoeddus wedi’i lywodraethu ar lefel genedlaethol, yn bennaf drwy ddeddfwriaeth statudol Deddf Cefn Gwlad 1968, Deddf Priffyrdd 1980, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, ac amrywiaeth o reoliadau, canllawiau a pholisïau llywodraeth ganolog.