Mae 525 milltir o Hawliau Tramwy Cyhoeddus cofnodedig yn Wrecsam. Fel gallwch ddychmygu mae angen llawer o waith i sicrhau bod y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar agor, yn hygyrch ac yn hawdd ei ddefnyddio. Trwy ddod yn wirfoddolwr gallwch chi helpu’r Fwrdeistref Sirol gynnal ei Hawliau Tramwy Cyhoeddus cofnodedig fel bod y cyhoedd yn gallu mwynhau’r cefn gwlad hardd a chylchoedd trefol sydd gan Wrecsam i’w cynnig.

Cynyddodd nifer y gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwaith amrywiol ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus o dipyn i beth yn y blynyddoedd diwethaf. Boed hynny er mwyn cadw’n heini a bywiog, neu rywbeth i wneud yn eich amser sbâr, mae pawb yn y tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ddiolchgar am yr help.

Rhestr o dasgau

Arolwg 5 mlynedd

Archwilio rhwydweithiau o lwybrau mewn cymuned unwaith bob 5 mlynedd.

Pob 5 mlynedd rhaid i’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus gynnal arolwg yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o bob llwybr yn Wrecsam. Mae arolwg sylfaenol yn golygu cerdded llinell y llwybr a nodi unrhyw beryglon a welwyd. Fodd bynnag, os oes gennych yr amser a’r amynedd, byddai arolwg manylach yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Mae hyn yn cynnwys nodi peryglon a rhwystrau, yn ogystal â manylu celfi fel camfeydd, adwyau ac ati a’u cyflwr. Hefyd nodi cyflwr y llwybr e.e. darn corslyd, gyda chnwd neu dir âr. Wrth wneud hyn mae’n helpu i ni lunio mapiau digidol sy’n cynnwys manylion pob llwybr er mwyn i ni allu cadw golwg ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus Wrecsam a’u cynnal.

Llwybrau a hyrwyddwyd

Archwiliad unwaith neu ddwy y flwyddyn o Lwybr a Hyrwyddwyd.

Mae gennym nifer o Lwybrau a Hyrwyddwyd yn Wrecsam.

Byddai arolwg o Lwybr a Hyrwyddwyd yn golygu cysylltu â’r adran hawliau tramwy yn y lle cyntaf a thrafod pa lwybr yr hoffech wneud arolwg ohono. Unwaith y dewiswyd llwybr byddwch yn derbyn mapiau, gwybodaeth am deithiau cerdded a manylion beth i’w wneud.

Byddai’r arolwg yn golygu cerdded ar hyd y llwybr a nodi unrhyw beryglon neu rwystrau, celfi fel arwyddbyst, camfeydd, adwyau ac ati a’u cyflwr; hefyd tocio unrhyw ordyfiant ysgafn.

Mabwysiadu llwybr

Archwiliad unwaith neu ddwy y flwyddyn o Hawl Dramwy Gyhoeddus neu rwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Os ydych yn teimlo na fyddai cynnal arolygon 5 mlynedd neu waith ar Lwybr a Hyrwyddwyd y peth i chi yna beth am fabwysiadu llwybr? Efallai fod gennych lwybr troed wrth ochr eich eiddo, neu hoff lwybr a gerddwch arno’n rheolaidd? Gallwch fabwysiadu un llwybr, amryw lwybrau neu lwybrau mewn cymuned gyfan. Os byddwch yn mabwysiadu llwybr gallwch ei gadw ar agor ac yn hawdd ei ddefnyddio trwy wneud mân waith cynnal a chadw ar y llwybr neu lwybrau, fel tocio gordyfiant ysgafn, a dweud wrthym am unrhyw waith mwy. Wedyn bydd y llwybrau’n cael rhywfaint o flaenoriaeth ar ein rhestr gynnal os oes adnoddau ar gael gan eich bod wedi treulio eich amser yn ein helpu.

Ardaloedd sydd eisoes wedi elwa ar fod â llwybr troed mabwysiedig yw:

  • Holt
  • Marchwiel
  • Owrtyn
  • Plas Bennion
  • Brymbo
  • Llai
  • Coedpoeth
  • Gwersyllt
  • Broughton

Cnydau

Helpu trwy hysbysu unrhyw faterion cnydau i’r adran hawliau tramwy.

Er na fyddech yn credu hynny, mae cnydau’n bwnc llosg iawn ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Yn bennaf yn digwydd ym misoedd yr haf, mae cnydau ar gaeau’n gwthio cerddwyr oddi ar linell swyddogol y llwybr, igam-ogam trwy ddrysfa o gnwd neu gerdded o gwmpas ymyl y cae. Mae’n drosedd peidio â gadael llinell swyddogol y llwybr yn rhydd o rwystr. Gallwch helpu trwy ddweud wrthym am unrhyw gnydau sy’n rhwystro Hawl Dramwy Gyhoeddus a chadw golwg ar y sefyllfa dros gyfnod.

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk

Yn anffodus ni allwn drefnu a goruchwylio gweithgorau gwirfoddol gan fod hyn y tu hwnt i’n hadnoddau ond, os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy’n gofyn mwy, croeso i chi gysylltu â’r canlynol: