Mae gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol fel Awdurdod Tirfesur ddyletswydd i gadw’r Map Swyddogol a’r Datganiad dan adolygiad parhaus (Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 Adran 53). Mae hyn yn cynnwys yr holl ddigwyddiadau tystiolaethol sy’n arwain at addasu'r Map Swyddogol a’r Datganiad (Adran 53(3)(b) ac Adran 53(3)(c)). Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn aml o dan bwysau i ymchwilio i achosion penodol cyn eraill. Mae’r Datganiad o Flaenoriaethau yn nodi’r meini prawf a ddefnyddir fel rheol gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol i ymchwilio i achosion unigol ac ym mha drefn.

Rhoddir y flaenoriaeth i geisiadau Gorchymyn Addasu Map Swyddogol sydd wedi’u gwneud yn briodol ac yn seiliedig yn y lle cyntaf ar ddefnyddio’r llwybr am 20 mlynedd gan y cyhoedd. Bydd ceisiadau a wneir gan y cyhoedd yn seiliedig ar dystiolaeth ddogfennol (fel hen fapiau a dogfennau) yn cael eu blaenoriaethu dros geisiadau lle canfuwyd y dystiolaeth gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol. .

Fel rheol, caiff ceisiadau sy’n seiliedig ar y blaenoriaethu uchod eu harchwilio yn y drefn y daethant i law, ac eithrio unrhyw un o'r sefyllfaoedd canlynol lle gellir ymchwilio i achos yn gynt:

1. Lle gellid gwella diogelwch y cyhoedd yn sylweddol

Gellir blaenoriaethu achosion Map Swyddogol lle, er enghraifft, byddai effaith gorchymyn a gadarnheir yn gwella diogelwch y cyhoedd yn sylweddol.

2. Lle gallai camau gweithredu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam arwain at effaith cadarnhaol sylweddol ar y rhwydwaith

Gellir blaenoriaethu achosion Map Swyddogol lle, er enghraifft:

  • Mae llwybr yn ffurfio holl neu ran o “ddolen goll” i’r rhwydwaith
  • Mae llwybr yn ffurfio rhan o lwybr hirach, e.e. llwybr cylchol, llwybr pellter hir
  • Byddai anghysondeb yn y Map Swyddogol a’r Datganiad yn cael ei ddatrys; ac
  • Mae problem na ellir ei datrys drwy gynnal a chadw neu orfodaeth

3. Lle mae bodolaeth y llwybr wedi’i beryglu gan ddatblygiad

Gellir blaenoriaethu achosion Map Swyddogol lle, er enghraifft:

  • Mae cais cynllunio heb ei benderfynu neu ganiatâd cynllunio wedi ei roi
  • Mae tebygolrwydd o gais yn y dyfodol

4. Lle byddai ymchwilio i achos yn cynnwys yr un dystiolaeth â llwybr sy'n cael ei ymchwilio ar hyn o bryd neu ar fin cael ei ymchwilio

Efallai y rhoddir blaenoriaeth i achosion Map Swyddogol lle, er enghraifft, bydd llwybr yn cynnwys edrych ar yr un dogfennau â llwybr sydd eisoes yn cael ei ymchwilio.

5. Lle mae’n debygol y bydd newid yn y lefel o ddefnydd

Gellir blaenoriaethu achosion Map Swyddogol lle, er enghraifft:

  • Nad yw llwybr wedi ei ddangos ar y Map Swyddogol na’r Datganiad, ond y rhagwelir y bydd yn cael llawer o ddefnydd pe bai'n cael ei gofnodi ar y Map Swyddogol a’r Datganiad
  • Mae llwybr i’w weld ar y Map Swyddogol a’r Datganiad gyda hawliau is, a byddai’r defnydd yn uwch pe bai hawliau uwch yn cael eu cofnodi ar y Map Swyddogol a’r Datganiad

Datganiad o Flaenoriaethau Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus

Dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel Awdurdod Tirfesur, y pwerau i wneud gorchmynion i wyro neu ddiddymu hawliau tramwy. Bydd achosion yn cynnwys ceisiadau gan unrhyw aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys perchnogion a deiliaid, a sefyllfaoedd y mae CBSW yn penderfynu bod angen gorchymyn.

Nid oes yn rhaid i’r Cyngor gyflwyno gorchymyn. Ymhellach, os yw’r Cyngor yn penderfynu gwneud gorchymyn, nid oes unrhyw ddyletswydd arno i gyfeirio’r gorchymyn at Weinidogion Cymru os derbynnir gwrthwynebiadau.

Fel rheol caiff ceisiadau eu harchwilio yn y drefn y deuant i law, ac eithrio unrhyw un o'r sefyllfaoedd canlynol lle gellir ymchwilio i achos yn gynt:

  1. Pan fo ar lwybr angen gorchymyn llwybr cyhoeddus yn dilyn cymeradwyo caniatâd cynllunio
  2. Pan fo gorchymyn llwybr cyhoeddus yn gallu arbed costau a ysgwyddir dan swyddogaethau hawliau tramwy eraill
  3. Pan fo cais wedi ei wneud ar gyfer manyleb ysgol