Gelwir rhai mathau o eiddo rhent yn Dai Amlfeddiannaeth. Fel tenant preifat, mae’n bwysig gwybod os yw eich eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth oherwydd, fel tenant mewn Tŷ Amlfeddiannaeth, mae gennych rai hawliau a chyfrifoldebau ychwanegol.

Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth?

O dan Ddeddf Tai 2004, ystyr Tŷ Amlfeddiannaeth yw: 

  • tŷ neu fflat cyfan sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sydd yn ffurfio dwy aelwyd neu fwy a sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled
  • tŷ sydd wedi cael ei newid i nifer o fflatiau un ystafell neu lety arall nad yw’n hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled. 
  • tŷ wedi’i drawsnewid sydd yn cynnwys un fflat neu fwy nad ydynt yn llwyr hunangynhwysol ac sydd wedi’u meddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy.
  • adeilad sydd wedi’i drawsnewid yn llwyr i fflatiau hunangynhwysol lle mae llai na dwy ran o dair gyda'r perchennog yn byw yno a lle nad oedd y trawsnewid yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Adeiladu 1991.

Beth yw ystyr ‘aelwyd’ yn nhermau Tai Amlfeddiannaeth? 

Gall ‘aelwyd’ fod yn berson sengl, neu aelodau o’r un teulu’n byw gyda’i gilydd. Mae aelodau o’r un teulu’n cynnwys pobl sy’n briod neu’n byw gyda’i gilydd fel pâr priod (yn cynnwys unigolion mewn perthynas un rhyw) yn ogystal â pherthnasau agos a phlant maeth yn byw gyda rhieni maeth. 

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Mae rheolau sy’n berthnasol i Dai Amlfeddiannaeth wedi’u llunio i sicrhau bod eiddo’n ddiogel ac yn cael eu rheoli’n dda.

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o Dai Amlfeddiannaeth fod yn drwyddedig gyda ni (fel awdurdod tai lleol) a landlord, neu reolwr, yr eiddo sy’n gyfrifol am wneud cais am y drwydded.

Pan fo Tŷ Amlfeddiannaeth wedi’i drwyddedu gyda ni, gallwn sicrhau bod yr eiddo’n addas ar gyfer nifer y preswylwyr a bod y trefniadau rheoli’n dderbyniol. Mae’n rhaid i Dŷ Amlfeddiannaeth gael ei reoli’n gywir – gall methiant y rheolwr neu’r landlord i wneud hynny fod yn drosedd. Os oes angen, gallwn ymgymryd â’r dasg o reoli Tŷ Amlfeddiannaeth i ddiogelu’r preswylwyr (a phreswylwyr eiddo cyfagos) rhag niwed difrifol, pan fetho pob dim arall.

Gallwch roi gwybod i ni am Dŷ Amlfeddiannaeth didrwydded os ydych yn ei rentu’n breifat ac os ydych chi’n meddwl bod yr eiddo yn ddidrwydded.

Rheolaeth wael o Dai Amlfeddiannaeth

Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk (neu ffonio 01978 292040 os yw’r sefyllfa’n un brys) os nad ydych yn meddwl bod eich landlord preifat yn rheoli eich cartref yn iawn. Byddwn yn ymchwilio i’ch pryderon ac yn gweithredu yn erbyn y rheolwr os yw hynny’n briodol.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn Tai Amlfeddiannaeth

Os ydym ni (yr awdurdod lleol) yn derbyn cwyn mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan Dŷ Amlfeddiannaeth, byddwn yn mynd i’r afael â hyn drwy’r landlord a rheolwr yr eiddo. Mae gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am y Tŷ Amlfeddiannaeth ddyletswydd i’w reoli’n gywir ac mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad y tenantiaid.

Os yw’r unigolyn sy’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol yn denant i landlord preifat, yn byw gyda, neu’n ymweld â thenant landlord preifat, yna, lle bo’n bosibl, dylid cysylltu gyda’r landlord preifat neu’r asiantaeth osod gyda manylion am y problemau yr ydych yn eu cael.

Mae gan landlordiaid y cytundeb tenantiaeth i’w cynorthwyo wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu heiddo.

Nid yw landlordiaid cyfrifol eisiau lletya tenantiaid gwrthgymdeithasol gan eu bod yn debygol o achosi problemau eraill hefyd (megis difrod i’r eiddo, trafferth gyda thalu rhent, ac o bosib, arddangos ymddygiad bygythiol neu gamdriniol tuag at y landlord). Mae gan landlordiaid preifat yr hawl i droi tenant allan, os yw pob ymgais arall i ddatrys y broblem yn aflwyddiannus.

Rydym yn annog landlordiaid preifat i weithio’n agos gyda ni a’r heddlu i ddatrys problemau (gall gweithio ag asiantaethau eraill roi mynediad at bethau i’w defnyddio na fyddent fel arfer ar gael i landlordiaid eu defnyddio eu hunain).

Hawliau a Chyfrifoldebau tenant mewn Tŷ Amlfeddiannaeth

  • Gallwch hawlio ad-daliadau rhent os yw eich landlord wedi'i gael yn euog o fethu trwyddedu’r Tŷ Amlfeddiannaeth.
  • Ni fydd eich landlord yn gallu eich troi allan yn defnyddio ‘rhybudd adran 21’ os ydych yn meddiannu Tŷ Amlfeddiannaeth didrwydded o dan denantiaeth byrddaliad sicr – mae hyn yn golygu na allwch gael eich troi allan heb ‘sail’, megis peidio â thalu rhent.
  • Mae’n rhaid i chi ganiatáu i’r rheolwr gyflawni ei ddyletswyddau o fewn rheswm - gall ei atal rhag gwneud fod yn drosedd.

Bydd Tŷ Amlfeddiannaeth yn drwyddedig ar ôl i gais am drwydded neu eithriad dros dro rhag trwyddedu gael ei wneud.

Mae atal yn cynnwys unrhyw weithred nad yw’n caniatáu i’r rheolwr gyflawni ei ddyletswyddau, fel y nodir yn y cyfrifoldebau rheoli. Mae disgwyl i reolwyr roi gwybod i ni am denantiaid mewn amgylchiadau o’r fath.

Darllenwch am amodau'r drwydded a’r rheoliadau rheoli y mae’n rhaid i landlordiaid Tai Amlfeddiannaeth eu dilyn ar ein tudalen rheoli a thrwyddedu Tai Amlfeddiannaeth.

Rhoi gwybod am Dai Amlfeddiannaeth didrwydded

Dechrau rŵan