Mae aflonyddu a throi allan anghyfreithlon yn droseddau. Y gosb uchaf y gellir ei rhoi i landlord am y troseddau hyn yn Llys y Goron yw dirwy anghyfyngedig a dwy flynedd o garchar.

Beth yw aflonyddwch?

Gall aflonyddwch gan landlord tuag at denant gynnwys:

  • eich bygwth er mwyn eich perswadio i adael
  • trais corfforol tuag atoch 
  • diffodd gwasanaethau hanfodol, neu gyfyngu arnynt, fel cyflenwadau nwy, trydan neu ddŵr
  • ymyrryd â’ch post
  • ymweliadau rheolaidd diangen gan y landlord neu gynrychiolwyr, yn enwedig os byddant yn ymweld yn hwyr y nos neu’n ddirybudd
  • mynd i’ch ystafell neu eiddo heb eich caniatâd 
  • atal mynediad i’r eiddo neu ran o’r eiddo 
  • caniatáu i’r eiddo fynd i’r fath gyflwr fel nad yw’n ddiogel i neb fyw ynddo
  • gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, anabledd neu rywioldeb

Gallai’r gweithredoedd hyn a gweithredoedd eraill sy’n debygol o roi pwysau arnoch i adael eich llety fod yn gyfystyr ag aflonyddu.

Beth yw troi allan yn anghyfreithlon?

Troi tenant allan, neu ymgais i wneud hynny, heb ddilyn y drefn gyfreithiol briodol yw troi allan anghyfreithlon, mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys:

  • newid y cloeon pan nad ydych yn yr eiddo 
  • codi ofn arnoch, eich bygwth neu eich gorfodi i adael
  • eich taflu allan yn bersonol

Os yw eich landlord yn eich atal rhag mynd i rannau arbennig o’ch cartref (er enghraifft cloi drws y toiled neu rwystro mynediad  i ran o’r adeilad y mae gennych hawl i fynd iddi) mae hyn hefyd yn gyfystyr â throi allan anghyfreithlon.

Beth yw’r weithdrefn gyfreithiol briodol ar gyfer troi allan?

Bydd y weithdrefn briodol, sy’n rhaid i landlord ei dilyn er mwyn ei gwneud yn ofynnol i denant adael, yn amrywio yn dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth sydd mewn lle.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw mewn llety rhent wedi’u diogelu gan y Ddeddf Amddiffyn Rhag Troi Allan 1977. Mae hyn yn golygu nad oes modd gorfodi tenant i adael ei gartref heb ddilyn y broses gyfreithiol gywir.

Yn bron bob achos, mae’n rhaid i landlord yn gyntaf roi’r rhybudd cywir i’r tenant adael (fel arfer yn ysgrifenedig a gyda rhybudd o ddeufis os yw’r tenant wedi cadw at y cytundeb tenantiaeth). Os yw’r tenant yn penderfynu peidio gadael ar ddiwedd  cyfnod hwn, mae’n rhaid i’r landlord gael gorchymyn llys ar gyfer meddiant.

Byddwch yn ymwybodol, cyn belled bod y weithdrefn gywir wedi cael ei dilyn, bydd gorchymyn llys yn cael ei roi i’r landlord ac fe allai’r tenant fod yn gyfrifol am dalu’r costau. Os yw achos o droi allan yn ddilys, dylai beili fod yn bresennol. Os oes angen, gall beilïod a awdurdodwyd gan warant llys ddefnyddio grym rhesymol i droi allan.

Gallai gorfodi rhywun o’i gartref, drwy unrhyw ddull ar wahân i orchymyn llys, gael ei ystyried yn achos anghyfreithlon o droi allan. Mae hyn yn drosedd ac yn torri’r gyfraith sifil.

Mae gwefan Shelter Cymru yn darparu gwybodaeth am y weithdrefn gywir y dylid ei dilyn ar gyfer troi allan.

Pryd fyddai rhybudd adran 21 yn annilys?

Ni fydd rhybudd adran 21 yn gyfreithiol ddilys os taloch flaendal ar ddechrau eich tenantiaeth a:

  • nid yw wedi cael ei ddiogelu yn un o’r cynlluniau diogelu blaendal a gymeradwyir gan y llywodraeth
  • nid ydych wedi derbyn y wybodaeth ofynnol am y cynllun diogelu a ddefnyddiwyd.

Ni fydd rhybudd adran 21 ychwaith yn gyfreithiol ddilys os nad yw eich landlord neu asiant yn gofrestredig neu’n drwyddedig o dan gynllun Rhentu Doeth Cymru.

Os ydych yn byw mewn eiddo sydd yn Dŷ Amlfeddiannaeth, bydd rhybudd adran 21 ond yn ddilys os yw’n cael ei gyflwyno tra bod eich landlord yn meddu ar y drwydded briodol gyda ni.

Beth all ddigwydd os yw landlord yn torri’r gyfraith?

Mae’r gyfraith yn nodi y gallai camau gael eu cymryd yn erbyn y landlord, ei asiant neu unrhyw unigolyn arall am achosion o aflonyddu neu droi allan anghyfreithlon, os gellir dangos eu bwriad neu achos rhesymol i gredu y byddai eu gweithredoedd yn debygol o achosi i’r deiliad adael rhan o’r eiddo neu’r eiddo cyfan. Gallent gael eu herlyn os cyflawnir y weithred  yn fwriadol neu’n fyrbwyll.

Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod eich landlord yn eich aflonyddu neu’n bygwth eich troi allan yn anghyfreithlon?

Ceisiwch gadw cofnod o unrhyw ddigwyddiad – efallai y bydd angen y dystiolaeth hon os yw’r achos yn mynd ger bron y llys. 

Dylech ffonio’r heddlu os yw eich landlord yn ceisio eich gorfodi o’ch cartref. 

Mae gwefan Shelter Cymru yn darparu canllaw byr ar gamau ymarferol y gallwch eu cymryd os ydych yn dioddef aflonyddwch neu os yw eich landlord yn bygwth eich troi allan (yn cynnwys beth i gadw cofnod ohono).

Rhoi gwybod i ni

Gallwch roi gwybod am achosion o aflonyddwch neu droi allan anghyfreithlon yn defnyddio ein ffurflenni ar-lein. Byddwn yn ceisio datrys yr anghydfod ac ystyried a yw erlyniad yn briodol.

Rhoi gwybod am aflonyddwch gan landlord

 

Rhoi gwybod am achos anghyfreithlon o droi allan

 

Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy anfon e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk (neu ffonio 01978 292040 os yw’r sefyllfa yn un brys). Mae’n bosibl y byddwn yn gallu darparu cyngor i chi neu eich cyfeirio at gyngor ar derfynu eich tenantiaeth.

Cysylltu â Rhentu Doeth Cymru

Mae’n rhaid i landlordiaid preifat trwyddedig gydymffurfio â Chod Ymarfer. Os nad ydynt yn gwneud hynny, gall Rhentu Doeth Cymru ymchwilio.

Dylech hefyd roi gwybod i’r heddlu am unrhyw ddigwyddiad difrifol neu dreisgar. Mae aflonyddu a throi allan anghyfreithlon yn droseddau ac fe allai eich landlord gael ei erlyn.

Cyngor a chymorth pellach

Os ydych chi wedi cael eich troi allan yn anghyfreithlon ac eisiau dychwelyd i’ch cartref, dylech gysylltu â chyfreithiwr a all weithredu ar eich rhan i gael mynediad.