Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Mae’r ddeddf wedi bod ar waith ers 1 Rhagfyr, 2022. Cyflwynodd lawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat. 

Mae’r dywediadau ‘contract meddiannaeth’ a ‘deiliaid contract meddiannaeth sy’n cael eu defnyddio ar y dudalen hon yn cymryd lle'r dywediadau ‘contractau tenantiaeth’ a ‘thenantiaid’.

Pwrpas y ddeddf 

Nod y ddeddf yw:

  • gwneud hi’n haws ac yn fwy syml i landlordiaid a deiliaid contract meddiannaeth i rentu cartref yng Nghymru  
  • symleiddio cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhent yng Nghymru
  • cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i ddeiliaid contract meddiannaeth a landlordiaid  

Ar bwy mae’r ddeddf yn effeithio 

  • Pob landlord - preifat a chymdeithasol 
  • Holl ddeiliaid contract meddiannaeth - preifat a chymdeithasol  

Newidiadau penodol

  • Disodlwyd cytundebau tenantiaeth gan gontractau meddiannaeth.
  • Sicrwydd cynyddol i ddeiliaid contract meddiannaeth rhent preifat - mae’n rhaid i landlordiaid roi rhybudd o 6 mis cyn belled â bod y contract heb ei dorri. 
  • Rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel ac o safon y gellir byw ynddynt - mae hyn yn cynnwys cael larymau mwg sy’n gweithio, larymau carbon monocsid a phrofion diogelwch trydanol. 
  • Mae deiliaid contract meddiannaeth wedi cynyddu hawliau olyniaeth i’w basio ar eu cartref
  • Gellir ychwanegu neu ddileu deiliad contract heb fod angen terfynu’r contract. 
  • Gall landlordiaid adfeddiannu eiddo a adawyd heb orchymyn llys, ar yr amod bod ymchwiliadau wedi'u cynnal.

Beth mae’n ei olygu i chi fel deiliad contract meddiannaeth

Mae’r ddeddf yn:  

  • symleiddio a gwella eich hawliau fel deiliad contract meddiannaeth (mae contractau yn cynnig gwell diogelwch a sicrwydd i chi)
  • gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi a rentir yng Nghymru 
  • rhoi gwell diogelwch fel deiliaid contract meddiannaeth yn y sector rhentu preifat

Sut y bydd yn effeithio’n uniongyrchol arnoch chi 

  • Bydd unrhyw gytundeb tenantiaeth bresennol yn cael ei newid yn awtomatig o’ch contract tenantiaeth bresennol i gontract newydd a byddwch yn derbyn copi o’r contract newydd erbyn 1 Mehefin, 2023.
  • Os ydych chi’n dod yn ddeiliad contract meddiannaeth newydd byddwch yn arwyddo eich contract yn y ffordd arferol ac yn derbyn copi o fewn 14 diwrnod. 

Nid yw'r ddeddf yn effeithio ar eich rhent ac ni fydd yn costio unrhyw arian i chi.

Beth sydd angen i chi ei wneud 

Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw darllen eich contract ac ymgyfarwyddo â'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch e-bostio rentinghomes@wrexham.gov.uk