Un o brif amcanion Llywodraeth Cymru yw sicrhau fod gan holl bobl Cymru, gan gynnwys tenantiaid tai cymdeithasol, y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da, mewn cymunedau saff a diogel.

Er mwyn sicrhau fod yr holl gartrefi yn cyrraedd lefel dderbyniol, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen, sef Safon Ansawdd Tai Cymru. Safon yw hon ar gyfer ansawdd a chyflwr yr adeiladau ac mae’n rhestru nifer o dargedau y bydd angen i’r holl gartrefi gwrdd â nhw.

Yn ôl dogfen Safon Ansawdd Tai Cymru, rhaid i’r holl dai cymdeithasol fod:

  • Mewn cyflwr da 
  • Yn saff a diogel 
  • Wedi eu gwresogi’n ddigonol, yn effeithlon o ran tanwydd ac wedi eu hinsiwleiddio’n dda 
  • Â cheginau ac ystafelloedd ymolchi modern 
  • Wedi eu lleoli mewn amgylcheddau deniadol a diogel 
  • Wedi eu rheoli’n dda

Mae ein gwasanaeth tai yn berchen ar dros 11,000 o dai cymdeithasol, y nifer mwyaf mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, ac eithrio Caerdydd ac Abertawe. Mae’r stoc hwn yn cynnwys eiddo o oedrannau, siapiau a meintiau gwahanol, ac maent wedi’u hadeiladu o bob math o ddeunyddiau gwahanol. 

Roedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru tan fis Rhagfyr 2021 i sicrhau bod eu tai cymdeithasol yn ticio'r blychau hyn ac yn cwrdd â’r safon hon. Roedd hyn yn golygu bod angen gwneud gwelliannau ar yr holl gartrefi nad oedd yn cwrdd â’r safon hon. Fe wnaethom ni gyrraedd y safon hon yn ystod chwarter olaf 2021 ac rydym nawr wedi symud i’r cam cynnal a chadw.

Sut gwnaeth ein gwasanaeth tai gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru?

I sicrhau ein bod yn cyrraedd y safon ansawdd, fe wnaethom gynnal rhaglen gynhwysfawr i wella tai cymdeithasol yn Wrecsam. 

Fe wnaeth ein gwasanaeth tai weithio mewn partneriaeth â nifer o gontractwyr i sicrhau bod pob agwedd ar y gwaith gwella yn cael ei wneud i safon uchel. Roedd y gwaith a wnaed yn  cynnwys: 

  • Gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, oni bai bod y rhai presennol eisoes yn cyrraedd y safon.  
  • Insiwleiddio waliau allanol mewn sawl eiddo i wella effeithlonrwydd ynni’r cartrefi hyn. 
  • Dechrau gwaith allanol i godi ffensys newydd a gwella llwybrau (bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ôl yr angen, i sicrhau bod yr eiddo’n cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru).

Sut mae’r gwaith yn cael ei ariannu

Bob blwyddyn, rydym ni’n pennu cyllideb flynyddol ar gyfer gwella tai. Daw’r arian drwy gyfuniad o incwm rhent tai cyngor, arian wedi’i fenthyca (benthyca darbodus) ac incwm o werthu tir ac eiddo mae’r cyngor yn berchen arnyn nhw.

Rydym hefyd yn derbyn Lwfans Atgyweiriadau Mawr sef grant a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i’w helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Yn 2022/23 byddwn yn derbyn £7.5m gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei wario ar gynlluniau gwella Safon Ansawdd Tai Cymru.

Yn 2022/23 byddwn yn gwario £50.8m ar welliannau Safon Ansawdd Tai Cymru.  

Pa welliannau sy’n cael eu gwneud i eiddo?

Bydd y gwaith canlynol yn parhau fel rhan o’r rhaglen buddsoddi cyfalaf ar gyfer 2022/23:

  • ailosod toi (a fydd yn parhau fel rhan o’r cyfnod cynnal a chadw)
  • gwaith ailwefru llawn a rhannol (a fydd yn parhau fel rhan o’r cyfnod cynnal a chadw)
  • gosod systemau gwres canolog newydd (a fydd yn parhau fel rhan o’r cyfnod cynnal a chadw)
  • rhaglen adeiladu darpariaeth barcio ger eiddo ar y safle
  • bydd eiddo sy’n draddodiadol yn anodd ei wresogi yn derbyn EWI fel rhan o’r rhaglen ddatgarboneiddio
  • gwaith ailwampio mawr ar eiddo gwag
  • adleoli tenantiaid o eiddo ble gwrthodwyd SATC yn y gorffennol (bydd y rhain yn cynnwys dull ailwampio ‘tŷ cyfan’)
  • plastro eiddo tenantiaid lle bydd angen gwneud gwaith ar blastr diffygiol (bydd hyn yn cynnwys edrych ar y dewisiadau gorau o ran darpariaeth, mathau o eiddo ac effeithiolrwydd cost)
  • buddsoddi’n sylweddol mewn llety tai gwarchod
  • gwaith allanol sylweddol a rhaglen amgylcheddol

Bydd rhaglen ffenestri a drysau newydd hefyd yn dechrau fel rhan o’r  rhaglen buddsoddi cyfalaf ar gyfer 2022/23.

Pryd fydd y gwaith yn cael ei wneud yn fy eiddo?

Bydd pob eiddo’n cael rhybudd ysgrifenedig ymhell cyn i unrhyw waith gwella a gynlluniwyd gael ei wneud i roi amser i chi baratoi.

A fydd y gwaith yn amharu ar fy nghartref?

Yn anochel, bydd cynnal gwaith gwella ar y raddfa hon yn golygu rhywfaint o amharu ar denantiaid a sylweddolwn y gall y gwaith mewnol, yn enwedig ailosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi, arwain at amharu. Rydym ni’n gobeithio y bydd gweld y cynnyrch gorffenedig yn gwneud yr holl waith yn werth chweil. Cofiwch, os oes gennych chi unrhyw bryderon, mae modd i chi siarad gyda Swyddog Cyswllt Tenantiaid. 

Rôl y Swyddog Cyswllt Tenantiaid yw:

  • cadw mewn cysylltiad â chi tra bod elfennau penodol o’r gwaith yn cael eu gwneud
  • helpu i ateb cwestiynau sydd gennych chi 
  • bod yn bwynt cyswllt rhyngoch chi a’r gwasanaeth tai 

Mae gan ein contractwyr hefyd eu Swyddogion Cyswllt i Breswylwyr eu hunain sydd â rôl debyg, felly bydd yna bob amser wyneb cyfeillgar y gallwch chi gysylltu â nhw tra bo'r gwaith yn cael ei wneud, pe bai unrhyw faterion yn codi.

Sut ydym ni’n monitro ansawdd y gwaith sy'n cael ei wneud?

Rhaid i bob agwedd ar y gwaith gael ei archwilio gan un o Glerciaid Gwaith y gwasanaeth tai, cyn y gellir llofnodi ei fod wedi’i gwblhau. Mae’n rhaid i'r Clerc fod yn fodlon bod y gwaith yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru cyn llofnodi’r datganiad cwblhau.

Mae ein gwasanaeth tai yn defnyddio Grwpiau Gwella Gwasanaeth, sy'n cynnwys tenantiaid etholedig, sy'n ymweld ag eiddo’n rheolaidd, yn siarad gyda thenantiaid ac yn cynnal archwiliadau 'siopwr cudd’ ar eiddo sy’n cael ei wella. Adroddir yn ôl wrth y gwasanaeth tai am yr hyn a welwyd er mwyn ein helpu i gynnal safon gwaith uchel ac ymdrin ag unrhyw faterion a allai godi.

Mae tenantiaid hefyd yn derbyn holiaduron ar ôl i bob elfen o’r gwaith gael ei chwblhau.  Mae’r canlyniadau wedyn yn cael eu casglu, eu cymharu a'u dadansoddi er mwyn cynnal safon gwaith uchel drwyddi draw. 

Beth yw Cynlluniau ‘Budd Cymunedol’?

Mae Llywodraeth Cymru a’n gwasanaeth tai wedi ymrwymo i sicrhau bod yr economi leol yn derbyn y gwerth mwyaf posibl o bob ceiniog sy’n cael ei gwario ar y gwaith i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. 

Mae cymalau bellach wedi'u cynnwys ym mhob prif gontract, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth tai i ymrwymo i 'roi rhywbeth ychwanegol' yn ôl i'r economi leol drwy gynlluniau Budd Cymunedol.

Gall y cynlluniau gynnwys noddi prosiectau lleol fel: gerddi cymunedol a thimau chwaraeon, adnewyddu ysgolion, neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol.

Gall buddion cymunedol hefyd gynnwys cyflogi gweithwyr lleol, sefydlu cynlluniau prentisiaeth a phrynu stoc a chyflenwadau gan fusnesau lleol. 

Hyd yma mae’r Cynlluniau Budd Cymunedol wedi arwain at: 

  • Gyflogi dros 60 o brentisiaethau modern
  • Darparu 114 wythnos o brofiad gwaith 
  • Darparu cyflogaeth tymor byr i 36 o weithwyr
  • Darparu gwaith tymor hir i 34 o weithwyr
  • £63,197 wedi ei roi fel arian parod neu mewn nwyddau i sefydliadau neu brosiectau yng Nghymru