Lle ydyn ni arni bellach?

Fel eich landlord mae’n bwysig ein bod yn gwybod sut rydych yn teimlo am eich cartref, eich cymdogaeth, a’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i chi. Bob dwy flynedd rydym yn cynnal arolwg i ganfod gwybodaeth allweddol gennych chi, ac rydym wedyn yn defnyddio’r wybodaeth honno i helpu i siapio’n gwasanaethau. 

Cynhaliwyd yr arolwg diwethaf yn hwyr yn 2019. Fe wnaethom dderbyn 1096 o ymatebion, sydd yn gyfwerth ag oddeutu 16% o’n tenantiaid. Dyma grynodeb o’r cwestiynau craidd a ofynnwyd yn 2019 a’r canran o’r rheiny a ymatebodd a oedd yn fodlon. 

Ymatebion boddhad tenantiaid 

Ymatebion
Cwestiwn craidd % o ymatebwyr
Gan ystyried pob dim, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi â’r gwasanaeth a ddarperir gan Wasanaethau Tai Cyngor Wrecsam?  77%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ag ansawdd cyffredinol eich cartref?  77%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi gyda’ch cymdogaeth fel lle i fyw?   79%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn cynnig gwerth am arian?  70%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich taliadau gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian?  65%
Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod Gwasanaethau Tai Cyngor Wrecsam yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt?  59%