Mewngofnodi i MyView

MyView – ar gyfer gweithwyr ac aelodau’n unig

MyView ydi ein cyfleuster diogel ar-lein sydd yn galluogi i chi weld yr wybodaeth amdanoch a gedwir ar y system AD a Chyflogau, gwybodaeth am gyflogaeth, slipiau cyflog a thaliadau i aelodau. Cedwir gwybodaeth pob gweithiwr yn ddiogel ac mae ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Gall gweithwyr ddefnyddio MyView i weld:

  • Eich slip cyflog diweddaraf, ffurflenni P60 a gwybodaeth P11D
  • Eich hen slipiau cyflog, ffurflenni P60 a gwybodaeth P11D (4 blynedd ddiwethaf)
  • Negeseuon am slipiau cyflog
  • Eich manylion personol e.e. enw, teitl
  • Manylion Banc
  • Manylion eich cyflogaeth bresennol e.e. cyflog, oriau gwaith
  • Hanes cyflogaeth
  • Cyflwyno hawliadau treuliau a theithio 
  • Llenwi gwerthusiadau
  • Edrych ar hyfforddiant a gwblhawyd 

Gall aelodau ddefnyddio MyView i weld: 

  • Gwybodaeth am eich slipiau cyflog, manylion personol a gwybodaeth am y rôl 

Gall rheolwyr ddefnyddio MyView i weld:

  • Strwythurau tîm
  • Gwybodaeth am gontract aelod o’r tîm 
  • Cofnodion salwch aelod o’r tîm a sbardunau wedi’u bodloni
  • Hyfforddiant tîm 

Gall rheolwyr hefyd ddefnyddio MyView i gwblhau gwerthusiadau aelod tîm ac awdurdodi a chyflwyno hawliadau milltiroedd a threuliau aelod tîm.