Sut y gallaf gadarnhau a yw fy moeler wedi stopio gweithio ai peidio?

Os ydych yn credu bod eich boeler wedi stopio gweithio dylech wirio i ddechrau...

  • Thermostat yr ystafell i weld a yw wedi’i droi i fyny, cofiwch os yw eich eiddo yn ddigon cynnes mae’n bosibl na fydd y gwres yn dod ymlaen
  • Amserydd/rhaglennydd i weld a yw wedi’i osod yn gywir
  • Falfiau rheiddiaduron thermostatig (TRV) os ydynt wedi’u gosod, i weld a yw’r falfiau wedi’u troi i’r symbol *, os yw hyn yn wir, ni fydd yn caniatáu i’r rheiddiaduron fynd yn boeth (ac eithrio’r rheiddiadur heb un – a ddylai fod yn boeth)
  • Sbardun ffiwsiog (a fydd ger y boeler) i weld a yw wedi’i droi i ffwrdd – os ydyw, yna ni fydd y boeler yn gweithio

Efallai y bydd angen i chi wirio hefyd a fu toriad pŵer – pan fydd y pŵer i ffwrdd ni fydd y rhan fwyaf o foeleri gwres canolog yn gweithio.  Os yw’r cyflenwad trydan wedi diffodd, neu os yw wedi bod i ffwrdd am gyfnod hir o amser yna efallai y bydd angen ail-osod eich cloc amseru gan ddefnyddio’r cloc 24 awr.

Os nad yw eich boeler yn gweithio ac na allwch ganfod y rheswm dros hyn rhowch wybod i ni.

A ddylwn adael fy moeler ymlaen drwy’r amser neu ddefnyddio fy amserydd/rhaglennydd?

Fel arfer mae’n ddrutach gadael eich dŵr poeth a’ch gwres ymlaen drwy’r amser, mae’n dibynnu’n aml ar ba mor aml y defnyddir y gwres/dŵr poeth yn eich cartref. Er bod boeleri yn defnyddio mwy o bŵer i ddechrau i gynhesu’r cartref a dŵr o fod yn oer, mae’n costio mwy i gadw’r boeler ymlaen drwy’r dydd.

Mae bron bob amser yn rhatach cael eich dŵr poeth ymlaen pan fyddwch ei angen, oherwydd bydd tanc llawn o ddŵr poeth bob amser yn colli gwres a bydd angen i’r boeler barhau i’w gynhesu.  Fel arfer mae’n cymryd tua 30-45 o funudau i gynhesu tanc o ddŵr poeth.  Gosodwch eich rhaglennydd i’w gynhesu eto am gyfnod byr cyn y byddwch yn debygol o fod angen dŵr poeth yn y bore, ac i ddod ymlaen eto cyn yr amser y byddwch angen ei gynhesu eto. Mae botwm yn aml ar amserydd/rhaglennydd eich gwres canolog sy’n rhoi hwb o ddŵr poeth rhwng yr amseroedd hyn.

Yn ddelfrydol, ni ddylai’r system wresogi a dŵr poeth fod ymlaen am fwy na naw awr y dydd, oni bai ei bod yn eithriadol o oer.

A ddylwn i adael fy ngwresogydd trochi trydan ymlaen drwy’r amser?

Na – os oes gennych foeler gwres canolog nwy, defnyddiwch hwn i gynhesu eich dŵr poeth, yn ddelfrydol gan ddefnyddio eich amserydd i amseru eich gwres a dŵr poeth yr un pryd.  Dylech ond defnyddio eich gwresogydd trochi fel hwb ychwanegol.

Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio eich gwresogydd trochi trydan i gynhesu eich dŵr poeth yn yr haf pan nad oes angen y boeler i gynhesu’r rheiddiaduron.  Gallai hyn weithio allan yn rhatach os byddwch ond yn defnyddio swm bychan o ddŵr poeth.

A ddylwn i ddefnyddio fy ngwresogydd symudol/tân addurniadol neu droi fy system gwres canolog ymlaen?

Mae unrhyw wresogydd trydan y mae angen ei blygio i mewn (gan gynnwys rheiddiaduron llawn olew), gwresogyddion nwy symudol neu danau nwy addurniadol yn ffordd ddrud ac aneffeithlon o gynhesu eich cartref. Mae’r costau gwres yn costio tua thair gwaith cymaint yr uned o gymharu â system gwres canolog nwy.

Mae gwresogydd nwy symudol hefyd yn cynhyrchu swm uchel o anwedd a all wneud y tŷ yn llaith. Yr unig amser y mae’n werth eu hystyried yw os yw’n ddewis rhwng gwresogi un ystafell gyda gwresogydd symudol neu dŷ mawr cyfan gyda gwres canolog.

Ni ddylid ystyried gwresogyddion neu danau symudol fel dull amgen i wres canolog a dylid ond eu defnyddio ar gyfer defnydd achlysurol, er enghraifft ar ddiwedd y dydd pan fydd y gwres canolog wedi’i droi i ffwrdd.

Nid yw fy rheiddiaduron yn aros yn boeth drwy’r amser hyd yn oed pan fyddaf yn eu troi i’r gosodiad uchaf?

Mae hyn yn arferol, oherwydd bydd tymheredd rheiddiaduron yn amrywio’n naturiol pan fyddant yn cael eu rheoli gan TRV (falfiau rheiddiaduron thermostatig).

Pam fod y boeler yn tanio ymlaen ac i ffwrdd drwy’r amser?

Bydd y boeler ond yn tanio ymlaen pan fydd eich system wresogi a/neu ddŵr poeth ymlaen. Os oes gennych thermostat ystafell, bydd y ‘tanio ymlaen’ yn stopio pan fydd eich cartref yn ddigon cynnes. Yna bydd y boeler yn ‘troi i lawr’ i’r golau peilot. Pan fydd y tymheredd yn gostwng, bydd y thermostat ystafell yn dweud wrth y boeler am ‘danio ymlaen’ eto, gan ail-gynhesu’r dŵr i’w bwmpio o amgylch i’r rheiddiaduron.

Os byddaf yn troi’r thermostat ystafell i osodiad uchel a fydd yn cynhesu’r ystafell yn gynt?

Na, ni fydd ei droi i fyny yn cynhesu’r ystafell yn gynt.

A yw’n well troi rheiddiaduron i ffwrdd mewn ystafelloedd nad wyf yn eu defnyddio’n aml?

Na, oherwydd gallech gael anwedd mewn ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio. Hefyd, os byddwch ond yn defnyddio un rheiddiadur nid yw’n dda i’r system wresogi a gallai dorri. Rydym yn argymell eich bod yn gosod y TRV (falfiau rheiddiaduron thermostatig) ym mhob ystafell i osodiad 1 neu 2 ac i osodiad uwch yn yr ystafelloedd yr ydych yn eu defnyddio amlaf.

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cau drysau unrhyw ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio i’w hatal rhag draenio gwres o weddill y tŷ.

Mae fy ngwres ymlaen ond mae’r rheiddiadur yn yr ystafell fyw wedi mynd yn oer, pam?

Pan fydd y TRV (falfiau rheiddiaduron thermostatig) yn synhwyro bod y rheiddiadur yn ddigon cynnes, mae’n cau’r bibell ac yn atal dŵr poeth rhag llifo i’r rheiddiadur. Pan fydd yr ystafell yn oeri, bydd y TRV yn agor y bibell a bydd dŵr poeth yn llifo’n ôl i’r rheiddiadur a’i gynhesu.

Pam fod fy rheiddiadur sydd â TRV (falf rheiddiadur thermostatig) yn oer pan mae fy system wresogi ymlaen?

Mae’r thermostat yn atal y dŵr i’r rheiddiadur pan fydd yn synhwyro bod yr ystafell yn ddigon cynnes.