Os ydych chi’n gwneud cais am Dŷ Cyngor ac os ydych chi (neu gyd-ymgeisydd neu aelod o’ch teulu) yn euog o ‘ymddygiad annerbyniol’ ar adeg y cais, bydd y Cyngor yn ystyried eich gwahardd o’r gofrestr dai.
Dyma enghreifftiau o ‘ymddygiad annerbyniol’:
- Ôl-ddyledion rhent heb eu talu
- Niwsans neu boenydio wedi ei achosi gennych chi neu aelod o’ch teulu
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi ei achosi gennych chi neu aelod o’ch teulu
- Collfarn am ddefnyddio’r eiddo at ddefnydd anghyfreithiol neu anfoesol
Mae’r polisi gwahardd yn berthnasol i...
- Ymgeiswyr ar y rhestr aros – ymgeiswyr newydd, gan gynnwys cyn-denantiaid
- Ymgeiswyr di-gartref – bydd Rheolwr Stad y swyddfa dai y mae'r cais wedi ei atgyfeirio iddi gan Swyddog Dewisiadau Tai yn ail-asesu’r ceisiadau
- Ymgeiswyr sy’n gwneud cais i symud – ymgeiswyr sydd eisoes efo tenantiaeth efo ni