Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn ymroi i anghenion y dioddefwyr.  

Os ydych chi wedi bod yn ddioddefwr trosedd a gyflawnwyd gan blentyn neu berson ifanc lle bo’r Heddlu yn ceisio Datrysiad y Tu Allan i’r Llys (Biwro) neu gyhuddiad, gofynnir i chi a fyddwch chi’n rhoi eich cydsyniad i rannu eich gwybodaeth gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.  

Os byddwch yn cydsynio, bydd Swyddog Cyswllt Dioddefwyr a Chyfiawnder Adferol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr achos.

Beth yw cyfiawnder adferol?

Gall cyfiawnder adferol rymuso dioddefwyr drwy roi llais iddynt, a helpu’r rhai sydd wedi achosi niwed i gymryd cyfrifoldeb a gwneud iawn. 

Gallai cyfiawnder adferol gynnwys cynhadledd, er enghraifft - ble mae dioddefwr yn cyfarfod y person sydd wedi achosi’r niwed wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, pan nad cyfarfod wyneb yn wyneb yw’r dull gorau i bawb, gellir cyfathrebu drwy lythyrau neu ‘sesiynau cyfryngu nôl a blaen’ yn lle hynny.

Bydd unrhyw gyfraniad at broses cyfiawnder adferol bob amser yn wirfoddol i’r dioddefwr.  

Rhannu eich barn

Bydd Swyddog Cyswllt Dioddefwyr a Chyfiawnder Adferol yn llenwi datganiad personol dioddefwr lle bo angen. Bydd yr asesiad yn nodi:

  • eich canfyddiad o niwed
  • effaith y digwyddiad  
  • eich synnwyr diogelwch a lles

Os ydych chi wedi mynegi diddordeb mewn cynadleddau cyfiawnder adferol neu ymyraethau adferol uniongyrchol eraill, bydd y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr a Chyfiawnder Adferol yn gweithio’n agos gyda phawb er mwyn:

  • ystyried hyfywedd a diogelwch ymyrraeth a ffefrir, ac a oes angen unrhyw gefnogaeth ychwanegol
  • trefnu unrhyw sesiynau cyfryngu nôl a blaen (pan fyddwch chi mewn ystafell wahanol i’r unigolyn a gyflawnodd y drosedd a bydd cyfryngwr yn mynd nôl a blaen rhwng dwy ystafell a chyfathrebu ar eich rhan) 
  • trefnu unrhyw atgyfeiriadau a allai fod eu hangen cyn i gynhadledd gael ei chynnal

Cyfeirio

Byddwch chi’n cael canllawiau a chefnogaeth am wasanaethau cefnogi cyffredinol ac arbenigol perthnasol sydd ar gael i chi hefyd. Gallai hyn gynnwys rhoi gwybod i chi o le i gael gwybodaeth am:

Mwy o wybodaeth