Fel yr Awdurdod Priffyrdd mae gennym ddyletswydd o dan Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980 i reoli sgipiau a osodir ar y briffordd fabwysiedig. Bydd angen trwydded sgip arnoch os ydych am roi sgip ar y briffordd fabwysiedig.

Gwneud cais am drwydded sgip

Gallwch wneud cais am drwydded sgip drwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Bydd angen gwneud pob cais o leiaf saith diwrnod gwaith ymlaen llaw.

Dechreuwch rŵan

Cost trwydded sgip

Mae trwydded sgip am hyd at saith diwrnod yn costio £61 y sgip. Mae pob wythnos ychwanegol yn costio £55 y sgip. Ni roddir ad-daliadau ar ôl dyddiad cychwyn y drwydded.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan wneir eich cais bydd angen ei asesu yn gyntaf i sicrhau ei fod yn gymwys. Os caiff eich cais ei gymeradwyo byddwch yn cael neges e-bost yn cadarnhau hyn, gan gynnwys unrhyw ofynion safle penodol a dolen i wneud taliad am y drwydded. Unwaith y byddwch wedi talu, bydd eich trwydded yn ‘fyw’ i’w defnyddio fel y caniateir.