Fel yr Awdurdod Priffyrdd mae gennym ddyletswydd o dan Adran 169 Deddf Priffyrdd 1980 i reoli sgaffaldau a osodir ar y briffordd fabwysiedig. Bydd angen trwydded sgaffaldau arnoch i osod sgaffaldau ar y briffordd fabwysiedig.

Gwneud cais am drwydded sgaffaldau

Gallwch wneud cais am drwydded sgaffaldau drwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Bydd angen gwneud pob cais o leiaf saith diwrnod gwaith ymlaen llaw.

Dechreuwch rŵan

Cost trwydded sgaffaldau

Mae trwydded sgaffaldau am hyd at saith diwrnod yn costio £70 y sgaffald. Mae pob wythnos ychwanegol yn costio £50 y sgaffald. Ni roddir ad-daliadau ar ôl dyddiad cychwyn y drwydded.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan wneir eich cais bydd angen ei asesu yn gyntaf i sicrhau ei fod yn gymwys. Os caiff eich cais ei gymeradwyo byddwch yn cael neges e-bost yn cadarnhau hyn, gan gynnwys unrhyw ofynion safle penodol a dolen i wneud taliad am y drwydded. Unwaith y byddwch wedi talu, bydd eich trwydded yn ‘fyw’ i’w defnyddio fel y caniateir.