Rhoddir caniatâd i ddefnyddio’r briffordd gyhoeddus ar gyfer hysbysfyrddau neu ffens Heras, trwy gyflwyno trwyddedau a hawlenni gennym ni fel yr Awdurdod Priffyrdd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980.   

Gwneud cais am drwydded hysbysfwrdd/drwydded ffens Heras

Gallwch wneud cais am y drwydded hysbysfwrdd/drwydded ffens Heras drwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Bydd angen gwneud pob cais o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw.

Dechreuwch rŵan

Cost am drwydded Hysbysfwrdd/ffens Heras

Y gost am drwydded Hysbysfwrdd neu ffens Heras yw £70 yr wythnos. Ni roddir ad-daliadau ar ôl dyddiad cychwyn y drwydded.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan wneir eich cais bydd angen ei asesu yn gyntaf i sicrhau ei fod yn gymwys. Os caiff eich cais ei gymeradwyo byddwch yn cael neges e-bost yn cadarnhau hyn, gan gynnwys unrhyw ofynion safle penodol a dolen i wneud taliad am y drwydded. Unwaith y byddwch wedi talu, bydd eich trwydded yn ‘fyw’ i’w defnyddio fel y caniateir.