Mae’r amser a gymerir i gynnal gwaith trwsio yn dibynnu ar y math o waith trwsio sydd ei angen arnoch. Mae gennym bedwar categori blaenoriaeth trwsio.

Dan amgylchiadau eithriadol, efallai y rhoddir blaenoriaeth uwch i drwsio er enghraifft lle mae’n ymwneud ag unigolyn hŷn neu ag anabledd difrifol.

Ni fydd swyddog trwsio fel rheol yn galw i archwilio argyfwng neu waith trwsio brys y mae’n rhaid ei gwblhau o fewn saith niwrnod. Ar gyfer gwaith trwsio nad oes brys amdanynt, bydd y gwaith naill ai’n cael ei archwilio ymlaen llaw neu’n cael ei gyflawni gan y Gwasanaeth Cynnal a Chadw Symudol.

Categorïau'r gwaith trwsio

Mae’r terfynau amser ar gyfer cwblhau gwaith trwsio yn dechrau pan rydych yn rhoi gwybod am y nam yn y lle cyntaf.

Bydd yr holl atgyweiriadau yn cael eu categoreiddio o fewn y blaenoriaethau wedi’u rhestru isod, yn dibynnu ar ba mor frys ydyn nhw.

Gwaith trwsio brys (blaenoriaeth 1)

Targed cwblhau: o fewn 24 awr i gael gwybod am y nam

Bydd y gwaith trwsio hwn yn cael eu cwblhau ar yr un diwrnod lle bo modd, ac nid oes archwiliad ymlaen llaw. Ar y cyfan, maent ar gyfer sefyllfaoedd lle mae perygl i iechyd neu berygl i ddiogelwch y preswylydd neu berygl o niwed difrifol i'r eiddo.

Dyma rai enghreifftiau cyffredin...

  • Colli cyflenwad trydan yn llwyr
  • Pibellau wedi byrstio
  • Llifogydd/ tân
  • Toiled wedi blocio (os mai dim ond un sydd yn yr eiddo)
  • Draeniau wedi blocio / gorlawn
  • System gwres canolog wedi methu’n llwyr (Hyd-Ebr)
  • Wedi cloi allan o’r eiddo (efallai y codir tâl)

Efallai y bydd rhai achosion brys lle byddwn ond yn gallu gwneud gwaith trwsio dros dro yn y lle cyntaf, i sicrhau fod y sefyllfa’n saff a diogel. Yna byddwn yn trefnu apwyntiad dilynol (lle bo angen) i gwblhau'r gwaith trwsio. Ar ôl i chi roi gwybod am waith trwsio sydd angen ar frys, byddwn yn gofyn i chi aros yn eich eiddo er mwyn i ni allu cael mynediad.

Gwaith trwsio brys (blaenoriaeth 2)

Targed cwblhau: o fewn saith niwrnod i gael gwybod am y nam

Nid yw’r categori hwn o waith trwsio fel arfer yn cael ei archwilio ymlaen llaw. Mae eitemau yn y categori hwn yn gweithio trwsio a fydd yn atal difrod pellach – gan atal y gwaith trwsio rhag bod yn un brys, neu’n arwain at ddirywiad pellach i’r adeilad os bydd y broblem yn parhau.

Dyma rai enghreifftiau cyffredin...

  • Mân ddifrod i’r to, lle nad oes angen sgaffaldau.
  • Draeniau a phibellau gwastraff wedi eu rhwystro’n rhannol
  • Canllawiau anniogel ac wedi eu difrodi, troediadau grisiau, canllawiau pen grisiau
  • Estyllod rhydd, wedi torri, wedi pydru
  • System gwres canolog wedi methu’n llwyr (Mai-Medi)

Gwaith trwsio arferol (blaenoriaeth 3)

Targed cwblhau: o fewn 28 diwrnod i gael gwybod am y nam

Ar y cyfan, mae’r rhain yn ddiffygion lle gellir oedi cyn trwsio heb achosi dirywiad hirdymor i’r adeilad neu anghysur / niwsans i’r tenant neu unrhyw drydydd parti. Gallent fod yn destun rhag-archwiliad.

Dyma rai enghreifftiau cyffredin...

  • Trwsio (nid disodli) llwybrau, ffensys a waliau allanol
  • Trwsio/ glanhau cafnau dŵr ac ati
  • Trwsio Teils
  • Trwsio gosodion cegin
  • Mân waith plymio / newid tapiau
  • Trwsio / adnewyddu polion gwifrau

Gwaith trwsio nad oes brys amdano (blaenoriaeth 9)

Targed cwblhau: o fewn 120 diwrnod i gael gwybod am y nam

Mae’r gwaith trwsio hwn fel arfer yn waith allanol, er y gallant hefyd fod yn waith mewnol gyda chynnwys mwy sydd agen archwiliad ymlaen llaw. Er bod eu hangen, ni ystyrir fod digon o frys amdanynt i gael eu cynnwys dan y tri therfyn amser blaenoriaeth a amlinellir uchod.

Dyma rai enghreifftiau cyffredin...

  • Newid drysau sied
  • Newid gatiau
  • Newid cwteri 
  • Trwsio waliau (oni bai ei fod yn fater iechyd a diogelwch)
  • Plastro helaeth er enghraifft ystafelloedd llawn
  • Adnewyddu rhesi llawr llawn
  • Disodli uned mewn cegin
  • Newid gosodyn glanweithiol nad oes brys amdano
  • Newid drws garej
  • Pwyntio waliau allanol ac ymylau