Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam  (‘y Cyngor’) wedi gwneud Gorchymyn o dan Adran 35(1) a Rhan IV o Atodlen 9 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (‘Deddf 1984’) i reoleiddio’r defnydd o nifer o feysydd parcio y mae’r Cyngor yn eu gweithredu yn y fwrdeistref sirol.

Ni wnaed ond yr un newid a ganlyn yn y Gorchymyn Mannau Parcio Oddi ar y Stryd:

  • Diddymwyd yr holl daliadau i bobl anabl ym meysydd parcio’r Cyngor lle codir tâl am barcio.

Ni wnaed unrhyw newidiadau eraill yn y tariffau, taliadau meysydd parcio nac unrhyw amodau eraill. Gallwch weld copïau o’r holl ddogfennau hyn yn ystod oriau swyddfa yn Neuadd y Dref.

Os dymunwch herio dilysrwydd y Gorchymyn gallwch wneud cais i’r Uchel Lys i wneud hynny mewn chwe wythnos ar ôl 1 Awst 2022.