Grwpiau Plant Bach/Cylch Ti a Fi

Nid yw’n ofynnol i grwpiau plant bach gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (dolen gyswllt allanol) gan fod yn rhaid i rieni neu ofalwyr aros gyda’u plant tra byddant yno. Mae’r sesiynau’n galluogi plant i ymwneud â’i gilydd a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau. Beth bynnag y mae’r enw’n ei awgrymu, mae’r grwpiau’n derbyn mwy na phlant bach yn unig – fel arfer mae amrywiaeth o blant yn mynd gan gynnwys babanod newydd-anedig a phlant cyn ysgol.

Mae Cylchoedd Ti a Fi’n rhoi cyfle i rieni a gofalwyr chwarae gyda’u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Cymraeg. Mae croeso i rieni di-Gymraeg ddod i’r Cylchoedd ac fe’u hanogir i ddysgu Cymraeg gyda’u plant drwy fwynhau straeon syml, caneuon a rhigymau.

Gallai fod grwpiau eraill i fabanod a phlant bach ar gael yn lleol, gan gynnwys grwpiau tylino babanod, amser stori, grwpiau nofio, cerddoriaeth a symudiadau.

Mamaethod

Mae mamaethod yn gofalu am blant yng nghartref y teulu. Nid ydynt yn cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd ac nid yw’n ofynnol iddynt gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, oni bai eu bod yn gweithio i fwy na dau deulu.

Au Pair

Mae au pairs fel arfer yn fyfyrwyr tramor rhwng 17 a 27 oed, sy’n byw fel aelodau o deuluoedd wrth ddysgu Saesneg. Fel rheol nid oes ganddynt gymwysterau gofal plant, ac felly ni ddylent fod yn gyfrifol ar eu pennau’u hunain am blant cyn ysgol. Gallant weithio yn y cartref am hyd at bum awr bob dydd yn gyfnewid am ystafell, lwfans a dau ddiwrnod llawn i ffwrdd bob wythnos.

Gwarchodwyr plant

Mae gwarchodwyr plant fel arfer yn gofalu am blant wrth i’r rhieni fynd allan am brynhawn neu gyda’r nos. Nid yw’r gyfraith yn pennu isafswm oedran, ond mae’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn dweud y dylent fod yn hŷn nag 16 oed. Os ydych chi’n cael gwarchodwr plant o dan 16 a bod plentyn yn cael anaf o dan ei (g)ofal, mae’n bosib mai chi fydd yn gyfrifol am hynny. Felly byddwch yn bwyllog wrth ddewis gwarchodwyr plant, a gofynnwch am eirda os nad ydych chi’n adnabod yr unigolyn dan sylw’n dda.