Mae ein tîm Lles yn gweithio gydag oedolion 18 mlwydd oed a throsodd, sy’n cael anawsterau iechyd meddwl a lles oherwydd ffactorau cymdeithasol.  

Rydym yn deall bod llawer o bobl ifanc sy’n cael anawsterau iechyd meddwl, neu sy’n gofalu am rywun sy’n cael anawsterau iechyd meddwl, yn ei chael yn anodd gofyn am help.   

Beth rydym yn ei wneud

Fel tîm rydym yn canolbwyntio ar: 

  • ymyrraeth gynnar
  • deall beth sy’n achosi salwch meddwl 
  • datblygu sgiliau sy’n hyrwyddo gwydnwch a hunan-ofal 

Rydym hefyd yn gweithio gydag unigolion sydd wedi cael salwch meddwl difrifol a pharhaus drwy eu cefnogi yn ystod y broses adsefydlu, drwy ddefnyddio dull wedi’i bersonoli. 

Rydym yn rhoi’r unigolyn, ei deulu a’i ofalwyr wrth wraidd y gefnogaeth.

Ein nod yw gwneud yn siŵr fod gan y rhai yr ydym yn eu cefnogi ddealltwriaeth o’u hiechyd meddwl eu hunain. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn gallu datblygu’r hyder, gwybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n gwella lles.  

Beth rydym yn ei ddarparu

Gan ddibynnu ar faint o gefnogaeth y mae rhywun ei angen gennym, gallwn helpu drwy ddefnyddio un o dri dull â haenau.

Haen 1

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau, gwasanaethau a rhwydweithiau cefnogaeth ar draws ardaloedd canolog a gwledig yn Wrecsam.  Rydym yn gofyn am yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn. Mae hyn yn golygu y gallwn gynnig cefnogaeth ac arweiniad fel y gallent gael mynediad at y gwasanaethau sydd fwyaf addas i’w helpu.  

Haen 2

Gallwn gynnig asesiadau arbenigol sy’n nodi cymorth wedi’i dargedu’n well drwy ymyrraeth gwaith cymdeithasol a chydweithio ag asiantaethau partner.  Rydym yn cefnogi’r unigolyn i ddatblygu strategaethau ymdopi a sgiliau i ddod o hyd i’w datrysiadau eu hunain i atal problemau rhag gwaethygu. 

Haen 3

Rydym yn deall oherwydd natur problemau iechyd meddwl, yn aml bydd gan unigolion anghenion cymhleth.  Gall hyn effeithio ar eu hiechyd a lles gan olygu y bydd angen i sawl gweithiwr proffesiynol a gwasanaeth fod yn rhan.  

Efallai byddwn yn cymryd y dull hwn gan ddibynnu ar natur yr anghenion iechyd meddwl, neu lle mae argyfwng o ran yr anghenion fel: 

  • pryderon diogelu
  • angen am asesiad y Ddeddf Iechyd Meddwl

Lle mae anghenion cymhleth a/neu hanfodol, fel cynnydd yn y risgiau, rydym yn ymateb yn gyflym.  Rydym yn gwneud hyn drwy weithio gydag asiantaethau partner i roi asesiad risg a chynllun diogelwch ar waith i ddiogelu’r unigolyn a/neu eraill.  

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector statudol a’r trydydd sector. 

Cysylltwch â’n Tîm Lles

Mae’r tîm ar gael yn ystod yr amseroedd canlynol:

  • Dydd Llun i ddydd Iau 9am – 5pm 
  • Dydd Gwener 9am - 4.30pm

Gallwch wneud atgyfeiriad trwy gysylltu ag Un Pwynt Mynediad i Oedolion trwy anfon e-bost at AdultsSPOA@wrexham.gov.uk neu trwy ffonio 01978 291100.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: wellbeingteam@wrexham.gov.uk.