Mae’r wybodaeth hon i bobl sy’n cael anawsterau ymolchi ac i rai sy’n gweld gweithgareddau bob dydd yn fwy anodd. Mae wedi’i ysgrifennu gan therapyddion galwedigaethol cymwys. 

Hunan Gymorth - atebion ymarferol

Mae’r adran hon yn rhoi cyngor a gwybodaeth i chi a/neu eich gofalwr am ffyrdd y gallwch ddatrys problemau defnyddio’r bath (mynd i mewn ac allan o’r bath). 

Problemau gydag ymolchi mewn bath

Y prif broblemau’n ymwneud â defnyddio’r bath yn ddiogel yw: 

  • Camu i mewn ac allan o’r bath
  • Eistedd yn y bath a chodi eto

Ymolchi

Mae llawer o bobl yn cadw eu hunain yn lân drwy ymolchi â chadach a dŵr ac efallai mai dyma’r ffordd mwyaf syml a diogel i barhau. Yn aml, mae’n ddoeth i eistedd wrth ymolchi eich hun. 

Ymolchi mewn bath

Diogelwch yw’r peth pwysicaf. I rai, nid yw ymolchi mewn bath yn ddiogel a gallai’r peryglon fod yn fwy i rywun â phroblemau iechyd cymhleth. Os oes amheuaeth, peidiwch â cheisio defnyddio’r bath.

Pa atebion sydd ar gael?

Byrddau bath

Yn hytrach na chamu i mewn ac allan, gallai fod yn haws ac yn fwy diogel i ddefnyddio bwrdd bath. Rhoddir y bwrdd dros ymylon y bath gan ganiatáu i chi fynd i mewn ac allan ar eich ochr (fel y byddech yn mynd ar wely).  

Gris bath

Llwyfannau ydi’r rhain sy’n cael eu gosod wrth ochr y bath, fel bod llai o waith camu i mewn ac allan o’r bath. Mae gan rai reilen ynddynt sy’n gallu rhoi cymorth ychwanegol.  

Canllawiau cydio

Gellir gosod canllawiau cydio ar ochr y bath i helpu pan fyddwch yn mynd i mewn ac allan o’r bath.  

Seddi bath

Gall sedd bath wedi’i gosod yn ddiogel ar waelod y bath eich helpu i godi ac eistedd yn haws.  

Problemau defnyddio’r gawod 

Y prif broblemau’n ymwneud â defnyddio’r gawod yn ddiogel yw:  

  • Symud i mewn ac allan o’r ciwbicl neu dros ochr y bath

  • Gallu sefyll yn ddigon hir

  • Perygl o syrthio

Beth yw’r atebion?

Ein cyngor yw, os ydych yn cael trafferth gydag unrhyw un o’r uchod, y dylech ymolchi â chadach a dŵr yn unig i ddechrau. Gallai prynu cadair / stôl cawod eich helpu fel bod gennych sedd y gellir ei rhoi yn agos at y basn.  

Offer i helpu â thoiled isel 

Os ydych yn cael trafferth codi neu eistedd ar sedd toiled, yna gallai’r offer canlynol eich helpu. 

Pa atebion sydd ar gael?

Seddi toiled uwch

Mae seddi toiled uwch yn codi uchder seddi isel, gan ei gwneud yn haws codi neu eistedd. Mae’r rhan fwyaf o seddi toiled uchel yn cydio yn nhop y toiled a bydd angen tynnu’r sedd toiled bresennol.  

Fframiau toiled

Mae’r rhain yn cael eu gosod o gwmpas y toiled ac yn cynnwys ffrâm â choesau i orffwys eich breichiau arni, ac sy’n caniatáu i chi wthio i fyny’n fwy diogel i godi oddi ar y toiled.  

Alla i gael help i ddefnyddio’r bath?

Gallwch gysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, cymorth neu gyngor, neu gallwch roi caniatâd i rywun arall wneud hynny ar eich rhan. Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn gofyn am fanylion ac yn siarad am sut y gallwn eich helpu. 

Yn dibynnu ar eich ymholiad, bydd hyn yn cynnwys rhoi gwybodaeth neu gyngor am ffyrdd i helpu eich hun neu drefnu i gael asesu eich anghenion. 

Ar gyfer cymorth i ddefnyddio’r bath, efallai y byddwn yn eich cyfeirio ar gyflenwyr annibynnol i roi cyngor neu gyfarpar, i’ch galluogi i helpu eich hun, neu efallai y cewch gynnig asesiad mewn clinig cymunedol.  Os yw eich anghenion yn fwy cymhleth, efallai y byddwn yn cynnig asesiad yn eich cartref. 

Y Clinig Ymolchi

Beth sy’n digwydd mewn clinig cymunedol? 

Os byddwch yn cael trafferth defnyddio’r bath, efallai y cewch gynnig apwyntiad mewn clinig bath, fydd yn para tua 30 munud. Bydd asesydd gofal cymdeithasol yn asesu eich anghenion i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth. Os yw eich anghenion yn syml, byddwn yn eich cynghori ble i fynd i gael cyngor a chyfarpar gan gyflenwr annibynnol. Ni fydd angen i chi dynnu eich dillad. Mae’n bosibl y byddwn yn darparu cyfarpar arbenigol yn dilyn yr asesiad os ydym yn ystyried bod eich anghenion yn fwy cymhleth.

Gofynnir i chi ddod â lluniau o gynllun eich ystafell ymolchi a mesuriadau eich bath (dyfnder, uchder a lled) gyda chi i’r apwyntiad.

Asesiadau cartref ac addasiadau

Os oes angen mwy o gymorth, byddwch yn cael eich atgyfeirio am Asesiad Therapi Galwedigaethol, sy’n cael ei wneud yn eich cartref o bosib. Byddant yn edrych ar y ffyrdd y mae arnoch angen cefnogaeth ymarferol. Os na fydd cyfarpar neu fân addasiadau yn bodloni eich anghenion ymolchi, mae’n bosibl y bydd angen gwneud addasiadau yn eich cartref.

Os bydd angen gwneud llawer o waith megis tynnu’r bath a gosod cawod mynediad gwastad, cynhelir asesiad ariannol i edrych ar yr opsiynau ariannu ac a fydd angen i chi gyfrannu at yr addasiadau. Os byddwch yn rhentu eich cartref, bydd angen caniatâd y landlord i wneud yr addasiadau. Byddwch yn cael y manylion ar adeg eich asesiad cartref.

Gwybodaeth a chyngor am anghenion eraill heblaw ymolchi.

Cario pethau o un ystafell i’r llall

Gall troli eich helpu i gario pethau o un ystafell i’r llall, pan mae’n anodd eu cario. Os ydych yn gwthio i lawr yn drwm ar ffrâm gerdded, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio troli’n ddiogel.  

Mae modd addasu uchder rhai trolïau.  Nid yw bob amser yn hawdd gwthio troli ar lawr â charped arno. Dewis arall yw basged neu ‘cadi’ plastig sy’n cael eu gosod ar ffrâm gerdded.
 

Cymorth i wisgo

Os ydych yn cael trafferth cyrraedd neu blygu dan eich canol, mae nifer o wahanol gyfarpar ar gael i ymestyn. Gall yr “easi-reach” neu ffon godi ei gwneud yn haws codi llythyrau neu bethau eraill oddi ar y llawr neu’n isel i lawr.  

Gall siasbi â braich hir neu gymorth gwisgo sanau a theits ei gwneud yn haws i chi wisgo drwy roi cymorth ychwanegol os ydych yn cael trafferth plygu.  

Problemau â chadeiriau

Efallai ei bod yn anoddach codi oddi ar eich hoff gadair.  Efallai nad yw mor gyfforddus ag y bu, neu eich bod yn teimlo nad yw’n rhoi digon o gefnogaeth i chi.  

Os ydych yn bwriadu prynu cadair wahanol, dyma rai pethau i chi eu hystyried. Ydi sedd y gadair:

  • yn ddigon uchel i mi godi/eistedd yn hawdd?
  • yn ddigon cadarn i beidio troi pan fyddaf yn codi?
  • yn gyfforddus?
  • ydi’r breichiau ddigon ymlaen ac yn ddigon uchel i mi allu codi ac eistedd yn gyfforddus?
  • ydi’r cefn yn ddigon cadarn, ac ydi’r siâp yn iawn ar gyfer fy nghefn ac a oes angen iddo gynnal fy ngwddf/pen?

Efallai y gellir addasu eich cadair bresennol drwy godi uchder y sedd yn defnyddio blociau arbennig neu godwyr cadair sydd wedi’u cynllunio i gael eu gosod yn hawdd. Dylech gael cyngor pellach gan y cyflenwyr oherwydd bod gan bob cadair a soffa draed/castorau gwahanol, mae angen y codwyr cywir i sicrhau eu bod yn ffitio’n ddiogel.  

Os yw eich cadair yn rhy feddal a’ch bod yn suddo wrth geisio codi, gallai gosod bwrdd pren dan y glustog roi sail fwy sefydlog a gall gobennydd neu glustog wedi’i phlygu weithiau helpu i gynnal gwaelod eich cefn.

Ble gallaf gael y cyfarpar yma?

Gellir cael y cyfarpar y soniwyd amdanynt uchod gan gyflenwyr gwahanol yn eich ardal leol, dyma rai enghreifftiau: 

Gellir cael cyfarpar ar-lein hefyd, megis:

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod cysylltwch â ni. Mae ein manylion yn adran ymholiadau’r dudalen gofal cymdeithasol i oedolion.