Bydd etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael ei chynnal ar 2 Mai, 2024. 

Yng Ngogledd Cymru, bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael ei ethol i gynrychioli preswylwyr chwe sir / bwrdeistref sirol. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd y Cynghorau canlynol: 

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Sir Ynys Môn

Mae swyddog canlyniadau ym mhob ardal sy’n gyfrifol am drefnu a darparu’r bleidlais i’r etholwyr yn ei ardal. 

Hysbysiadau

Beth yw rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu?

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu, magu hyder pobl yn y system ac adfer ffydd pobl.

Mae’r Comisiynydd yn rhoi llai i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib’, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol. 

Swyddog canlyniadau ardal yr Heddlu

Mae’r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn gyfrifol am ymdrin ag ymgeiswyr ac asiantiaid, cynnal y bleidlais, casglu’r canlyniadau llawn ar draws ardal Heddlu Gogledd Cymru a datgan y canlyniad. 

Mae Ian Bancroft, prif weithredwr Cyngor Wrecsam, wedi’i benodi yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer Ardal Heddlu Gogledd Cymru. 

Pwy sy’n sefyll yn yr etholiad? 

Sut ydw i’n pleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu?

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy (yn cynnwys gwybodaeth am ID pleidleiswyr) ar gael ar dudalen etholiadau a phleidleisio.

Dyddiadau allweddol  i etholwyr

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio: Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy'r post newydd neu wedi’u haddasu: Dydd Mercher 17 Ebrill 2024 (erbyn 5pm)

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 (erbyn 5pm)

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau dirprwy: Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 (erbyn 5pm)

Rheolau newydd ar gyfer yr etholiad hwn

ID Pleidleisiwr

Er mwyn cael pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn yr etholiad hwn, bydd angen i bleidleiswyr ddangos prawf adnabod â llun. Bydd hyn yn effeithio ar bawb sy’n pleidleisio eu hunain neu’n pleidleisio drwy ddirprwy.

Rheolau ymdrin â phleidleisiau post

Bydd eich pleidlais drwy’r post yn cael ei gwrthod os na chaiff ei dychwelyd yn y modd cywir.

  • Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i chi ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post yw trwy ei phostio yn un o flychau postio’r Post Brenhinol, gan ddefnyddio’r amlen barod a ddarperir (amlen B). 
  • Cofiwch adael digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post ein cyrraedd ni. Mae’n rhaid iddynt gyrraedd y Swyddog Canlyniadau Lleol cyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais. 
  • Os ydych chi’n dychwelyd eich pleidlais bost â llaw, er enghraifft i orsaf bleidleisio neu Neuadd y Dref, Wrecsam (mae’r cyfeiriad ar amlen B), mae angen i chi lenwi ffurflen yn awr. Bydd ein staff yn eich helpu chi gyda hyn. 
  • Gallwch ddychwelyd eich pleidlais bost eich hun a hyd at 5 o rai eraill fesul etholiad (cyfanswm o 6). 
  • Os ydych chi’n ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch ei dychwelyd, a phleidleisiau post unrhyw berthnasau agos neu unigolyn rydych chi’n gofalu amdanynt yn rheolaidd. 
  • Pediwch â gadael eich pleidlais bost ym mlwch post unrhyw un o swyddfeydd y Cyngor.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau sy’n dod i rym yn yr etholiad hwn ar gael ar y dudalen Newidiadau i sut rydych yn pleidleisio.

Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr

Mae arweiniad ac adnoddau helaeth i ymgeiswyr ac asiantwyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cynnwys:

  • yr hyn sydd arnoch angen ei wybod cyn sefyll mewn etholiad
  • gwariant yr ymgeiswyr
  • ymgyrchu 
  • enwebiadau
  • pleidleisiau post
  • diwrnod pleidleisio
  • dilysu a chyfrif
  • ar ôl yr etholiad

Dogfennau briffio ymgeiswyr

Dyddiadau allweddol

  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantwyr (cyn yr enwebiadau): Dydd Mawrth, Chwefror 27, 2024
  • Hysbysiad o etholiad: Dydd Llun, Mawrth 25, 2024
  • Dosbarthu papurau enwebu: Dydd Mawrth, Mawrth 26, 2024 – Dydd Gwener, Ebrill 5, 2024 (rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith)
  • Dyddiad cau ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl: Dydd Gwener, Ebrill 5, 2024 (erbyn 4pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer hysbysiad penodiad cynrychiolwyr etholiadol: Dydd Gwener, Ebrill 5, 2024 (erbyn 4pm)
  • Datganiad am y Sawl a Enwebwyd: Dydd Llun, Ebrill 8, 2024 (erbyn 4pm)
  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantwyr (ar ôl yr enwebiadau):  Dydd Mawrth, Ebrill 9, 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru: Dydd Mawrth, Ebrill 16, 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn neu addasu ceisiadau pleidlais drwy'r post: Dydd Mercher, Ebrill 17, 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: Dydd Mercher, Ebrill 24, 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau dirprwy: Dydd Mercher, Ebrill 24, 2024 (erbyn 5pm)
  • Cyhoeddi Hysbysiad Pleidlais: Dim hwyrach na dydd Mercher, Ebrill 24, 2024 (erbyn 5pm)
  • Diwrnod y Bleidlais: Dydd Iau, Mai 2, 2024
  • Proses Wirio a Chyfrif Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: Dydd Gwener, Mai 3,2024 (dechrau am 9am) os yw’n etholiad unigol; neu ddydd Sul, Mai 5, 2024 (dechrau am 9am) os yw wedi’i gyfuno ag Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU