Adroddiad llifogydd
Os ydych chi’n poeni am lifogydd o brif afonydd yn eich ardal, ffoniwch Rybuddion Llifogydd ar 0345 988 1188.
Llifogydd o afonydd nad ydynt yn brif rai, nentydd a ffosydd, ffoniwch Cyngor Wrecsam ar 01978 298989.
Llifogydd ar y briffordd a llifogydd ar eich eiddo
I adrodd yn ôl ar lifogydd ar ffyrdd cyhoeddus, ac os ydi cwteri, rhwyllau, draenau priffyrdd neu ffosydd ar ochr y ffordd wedi blocio, ffoniwch y llinell gymorth 'Strydoedd o Fri' ar 01978 298989.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm (ac eithrio Gwyliau Banc):
Ar gyfer unrhyw lifogydd arall, pennwch darddiad y dŵr yn gyntaf.
A oes carthion yn y dŵr?
Os oes, ffoniwch Dŵr Cymru – y Gwasanaeth Carthion ac Argyfyngau ar 0800 085 3968
A yw’r dŵr yn gollwng o’r prif gyflenwad?
Os ydyw:
- Dŵr Cymru (dolen gyswllt allanol)
- Hafren Dyfrdwy (dolen gyswllt allanol)
- Severn Trent Water (dolen gyswllt allanol)
(yn dibynnu ar eich cyflenwr dŵr)
Os ydych chi’n poeni am lifogydd o brif afonydd yn eich ardal?
Os oes, ffoniwch Rybuddion Llifogydd ar 0345 988 1188.