Detholwyd y wybodaeth hon o Lending Expert (dolen gyswllt allanol) a Pheabs (dolen gyswllt allanol).

Mae benthyciadau diogel yn cyfeirio at fenthyca arian wedi’i warantu yn erbyn sicrwydd cyfochrog gwerthfawr fel cartref, car, fan neu adeilad swyddfa. Ym mwyafrif yr achosion, mae hwn yn fenthyciad a warentir yn erbyn eich cartref, ac ar sail ei werth, fe allwch chi fenthyca o ychydig filoedd hyd at filiynau o bunnoedd hyd yn oed.

Gyda dros 2,000 o fenthyciadau diogel (dolen gyswllt allanol) yn cael eu hariannu ar gyfartaledd bob mis yn y DU, sydd werth tua £100 miliwn, mae'r farchnad benthyciadau diogel yn un fywiog. Mae benthyciadau diogel yn ffynhonnell cyllid poblogaidd i aelwydydd sydd eisiau cyfuno dyledion, gwneud gwelliannau i’w tai neu gael gafael ar rywfaint o’u harian.

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn berchennog tŷ a bod yn berchen ar eich eiddo naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl. Drwy ddefnyddio eich eiddo fel sicrwydd cyfochrog, gallwch gael gafael ar symiau mawr o arian a thalu cyfraddau isel. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi y gallai eich eiddo gael ei adfeddiannu os na allwch chi ddal ati i dalu’r ad-daliadau.

Pa fathau o fenthyciadau diogel sydd yna?

Ail arwystl

Y math mwyaf cyffredin o fenthyciad diogel yw benthyciad ail arwystl neu forgais ail arwystl. Yn y bôn, mae hwn yn dod yn ail flaenoriaeth i’w dalu ar ôl talu eich morgais cyntaf bob mis. Yn nodweddiadol, mae’n fenthyciad a warentir yn erbyn eich cartref ac fe allwch chi fenthyca swm uchel, ond ychydig yn llai na’ch prif forgais. O ran ad-dalu, fe allwch chi ddewis tymor o rhwng 1 a 30 mlynedd.

Ail forgais

Mae ail forgais yn golygu cytundeb morgais newydd dan delerau sydd o bosib yn fwy ffafriol. Gyda rhai morgeisi’n para 5, 10 neu 20 mlynedd, fe allech chi weld bod gennych chi bellach well incwm, gwell statws credyd a mwy o ecwiti yn eich eiddo, felly fe allwch chi wneud cais am well telerau a chyfraddau is. Gydag ail forgais, fe allwch chi hefyd ryddhau swm o arian parod (£50,000 er enghraifft) a defnyddio hwn at ddibenion bob dydd. Fe allwch chi hefyd gynnwys yr ad-daliadau yn eich morgais misol, gan ei wneud yn drosglwyddiad didrafferth.

Rhyddhau ecwiti

Os ydych chi’n berchennog tŷ dros 55 oed, fe allwch chi ryddhau arian sydd wedi’i glymu yn eich cartref. Os ydych chi wedi bod yn talu eich morgais ers sawl blwyddyn neu wedi prynu’r eiddo’n gyfan gwbl, fe allwch chi ryddhau rhwng 20% a 60% o werth yr eiddo a derbyn hwn mewn un swm mawr sydd hefyd yn ddi-dreth. 

Fe allwch chi barhau i fyw yn eich cartref ac fe fyddwch chi’n elwa os bydd yr eiddo’n cynyddu yn ei werth. Fe allwch chi osgoi talu unrhyw log yn ystod eich oes ac mae’n bosib cynnwys y benthyciad fel rhan o’ch ystâd a’i dalu’n ôl i’r benthyciwr ar eich marwolaeth neu pan fyddwch chi’n mynd i leoliad gofal hirdymor.

Ar gyfer beth y mae benthyciadau diogel yn cael eu defnyddio?

Dengys data bod tua 50% o fenthycwyr yn defnyddio benthyciadau diogel i gyfuno eu dyledion. Ar gyfer unrhyw fenthyciadau myfyriwr, morgeisi neu fenthyciadau personol, fe allwch chi eu had-dalu’n gyfan gwbl ac yna talu i mewn i un pot.

Mae 22% o fenthycwyr yn defnyddio benthyciadau diogel ar gyfer cyfuniad o gyfuno dyledion a gwneud gwelliannau i’w cartref, gyda 19% yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau i'w cartref yn unig.

Gall defnyddio benthyciad diogel i wneud gwelliannau i’ch cartref, fel addasu'r atig, ymestyn y gegin neu adnewyddu’r tŷ, fod yn ffordd glyfar o ychwanegu gwerth i’ch eiddo. Ewch i weld pa welliannau all ychwanegu'r gwerth mwyaf i'ch cartref (dolen gyswllt allanol).

Mae rhesymau eraill dros ddefnyddio benthyciadau diogel yn cynnwys talu am briodas, cychwyn busnes, talu am angladd, prynu car, gwyliau, ffioedd ysgol a mwy.

Beth yw’r telerau?

Gall y telerau amrywio ar gyfer pob benthyciad, ond dyma sy’n arferol:

  • gall y cyfraddau gychwyn ar gyfradd codi tâl ganrannol flynyddol (APRC) o 3.34%
  • gall tymor y benthyciad fod rhwng 1 a 30 mlynedd
  • rhaid i chi fod yn berchennog tŷ
  • mae yna risg i’ch sicrwydd 
  • mae’ch holl hanes credyd yn cael ei ystyried
  • fe allech chi gael dewis talu'n gynnar, ond efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi am hynny

Beth i’w ystyried cyn gwneud cais

Dewis telerau eich benthyciad

Er y gallai benthyca'r swm uchaf am y cyfnod hiraf ymddangos yn beth synhwyrol i'w wneud, gallai hynny fod yn fwy o arian am fwy o gyfnod nag ydych chi ei angen. 

Po hiraf y bydd y benthyciad ar agor, y mwyaf o log y bydd yn ei gronni. Yn yr un modd, os ydych chi’n benthyca symiau mawr, bydd hynny hefyd yn cronni mwy o log. Felly gall gweithio ar gyllideb ymlaen llaw a phenderfynu faint yn union o arian rydych chi ei angen ac am faint o amser fod yn ymarfer cost-effeithiol iawn.

Risg o adfeddiannu

Os na fyddwch chi’n talu’r ad-daliadau ar amser, gallai’r benthyciwr adfeddiannu eich eiddo i adennill swm y benthyciad. 

Gallai hynny fod yn rhan o’r eiddo neu’r eiddo cyfan, yn dibynnu ar y swm rydych chi wedi'i fenthyca. Gall rhai benthycwyr neu fanciau hawlio eu budd yn eich eiddo os caiff ei werthu yn y dyfodol.

Dim ond pan fetho popeth arall y bydd benthycwyr yn adfeddiannu eich tŷ, a byddant bob amser yn cymryd mesurau rhagofalus eraill i’ch helpu chi i dalu eich benthyciad ar amser. Mae hyn yn cynnwys cynnig trefniadau talu, estyniad i’r benthyciad a chanllawiau i osgoi adfeddiannu.

Os byddwch chi’n defnyddio benthyciad diogel, fe fyddwch chi eisiau atal eich eiddo rhag cael ei adfeddiannu ar bob cyfrif, yn enwedig os mai dyma eich prif breswylfa chi a’ch teulu. 

Yn sicr, os ydych chi’n defnyddio benthyciad diogel i gyfuno dyledion, gall cymryd benthyciadau anwarantedig a’u trosi’n fenthyciadau diogel fod yn dipyn o risg, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl am gynllun ad-dalu.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio sut y byddwch chi’n ad-dalu eich benthyciad ar amser er mwyn atal eich eiddo rhag cael ei adfeddiannu.