Canfyddwch sut i uwchraddio eich system wresogi os ydych yn gymwys

Os ydych chi’n berchennog cartref neu os oes gennych adeilad annomestig bach yng Nghymru neu Loegr, efallai y byddwch yn gallu cymryd mantais o’r Cynllun Uwchraddio Boeleri i wneud eich cartref yn fwy ecogyfeillgar.

Mae’r cynllun hwn wedi ei sefydlu gan Lywodraeth y DU i annog pobl i ddefnyddio systemau gwresogi carbon isel.

Grantiau i’ch cynorthwyo i gael system wresogi sy’n fwy effeithlon o ran ynni

Cynigir grantiau i gefnogi newid systemau gwresogi presennol sy’n defnyddio tanwydd ffosil am ddewisiadau carbon isel, mwy effeithlon.

Os ydych yn ystyried uwchraddio eich system wresogi, dyma eich dewisiadau cymhwyso:

Pympiau gwres yr awyr

Gellwch gael grant o £5,000 tuag at y gost a gwaith gosod.

Boeleri biomas

Gellwch gael grant o £5,000 tuag at y gost a gwaith gosod.

Pwmp gwres o’r ddaear

Gellwch gael grant o £6,000 tuag at y gost a gwaith gosod.

Meini prawf cymhwyso

Mae’n rhaid i chi fod yn disodli system wresogi bresennol sy’n defnyddio trydan neu danwydd ffosil.

Cymhwysedd eiddo

Mae yna hefyd feini prawf cymhwyso ar gyfer yr eiddo er mwyn sicrhau bod y cynllun o fudd i’r rheiny a all wneud y newid yn eu systemau gwresogi a fydd yn cael yr effaith fwyaf:

  • Lleoliad – mae’n rhaid i’r eiddo fod yng Nghymru neu yn Lloegr.
  • Capasiti gosodiadau – mae’r cynllun yn cwmpasu’r rhan fwyaf o eiddo sydd â chapasiti gosodiadau o hyd at 45kWth.
  • Perfformiad ynni – byddwch angen tystysgrif perfformiad ynni ddilys nad yw’n cynnwys argymhellion ar gyfer inswleiddio.
  • Dyddiad gosod: mae’n rhaid comisiynu’r system wresogi carbon isel ar 1 Ebrill 2022, neu wedi hynny.
  • Cyfyngiadau boeleri biomas – mae boeleri biomas wedi eu cyfyngu i eiddo gwledig nad ydynt wedi eu cysylltu â’r grid nwy.

Sut i wneud cais ar gyfer y cynllun

Bydd angen i chi gysylltu â gosodwr ardystiedig a fydd wedyn yn arwain y broses ymgeisio. Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn ar wefan Llywodraeth y DU:

GOV.UK: Sut i wneud cais ar gyfer y Cynllun Uwchraddio Boeleri (dolen gyswllt allanol)

Dyma sut mae’r broses yn gweithio ar ôl i chi gysylltu â gosodwr addas:

  1. Gosodwyd ardystiedig – Gosodwyr cymwys sydd wedi eu hardystio gan y System Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS) sy’n dechrau’r broses ymgeisio ar eich rhan.
  2. Didynnu swm y daleb – Pan dderbynnir cymeradwyaeth, tynnir swm y daleb oddi ar eich costau gosod, gan leihau’r baich ariannol yn sylweddol.
  3. Cydymffurfiaeth ac ansawdd – Mae’r gosodwr a ddewisir gennych yn sicrhau bod y gosodiad yn cydymffurfio â safonau’r diwydiant a gofynion y cynllun.
  4. Hawlio’r daleb – Ar ôl gosod a chomisiynu’n llwyddiannus, bydd y gosodwr yn hawlio’r daleb ac yn derbyn y grant, gan sicrhau profiad didrafferth i chi.

Cyfleoedd ariannu ychwanegol

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Uwchraddio Boeleri, neu os ydych yn edrych am gefnogaeth ariannol bellach, archwiliwch y dewisiadau hyn: